Fe gollodd Cymru 2-1 yn y gêm gyfeillgar ryngwladol dan 21 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ym Mharc Colliers, Wrecsam, y prynhawn yma.

Roedd Cymru’n arwain ar ôl 12 munud pan ddaeth Niall Huggins (Leeds Utd) o hyd i rywfaint o le ym mlwch y Gwyddelod.

Sgwariodd Huggins y bêl i Joe Adams, a orffennodd yn glyfar gyda’i droed chwith.

Ond trodd Iwerddon y gêm ar ei phen yn y chwarter olaf gyda dwy gôl mewn dwy funud.

Fe wnaeth Jonathan Afolabi sgorio ar ôl 75 munud, cyn i bàs wallus yn ôl at y gôl-geidwad gan amddiffynnwr Lerpwl, Morgan Boyes, orffen yn rhwyd y tîm cartref gan golli’r gêm i Gymru.