Mae Cymru wedi eu coroni’n bencampwyr y Chwe Gwlad ar ôl i Ffrainc golli 27-23 i’r Alban.

Roedd angen buddugoliaeth pwynt bonws ar Les Bleus, yn ogystal ag ennill o 21 pwynt neu fwy, i gipio’r bencampwriaeth – ond colli ym Mharis yn erbyn yr Alban am y tro cyntaf ers 1999 fu eu hanes.

Roedd y canlyniad ym Mharis yn newyddion gwych i’r Cymry – maent wedi ennill y Bencampwriaeth am yr eildro mewn tair blynedd, a’r chweched tro mewn 17 mlynedd.

Gorfod aros cyn dathlu

Roedd dynion Wayne Pivac wedi cael eu gorfodi i aros chwe diwrnod ychwanegol i ddarganfod eu tynged ar ôl colled dorcalonnus 32-30 ddydd Sadwrn diwethaf yn Stade de France.

Wayne yn wên i gyd

Mae’r llwyddiant yn cyflawni newid rhyfeddol i’r prif hyfforddwr, Wayne Pivac.

Roedd dan bwysau ar ôl gorffen yn bumed yn y Chwe Gwlad y llynedd – a hynny ar ôl cyfnod euraidd Warren Gatland.

Dim ond tri o 10 prawf enillodd Cymru yn 2020 – a doedd fawr neb yn disgwyl llwyddiant eleni.

Ond, ar ôl curo Iwerddon a’r Alban, gyda chardiau coch yn helpu rhywfaint, sgoriwyd 40 o bwyntiau yn erbyn Lloegr am y tro cyntaf (40-24) ynghyd a buddugoliaeth arferol yn erbyn yr Eidal – ac roedd hynny’n fwy na digon i wrthsefyll yr her gan dîm talentog Fabien Galthié.