Mae gêm Bencampwriaeth arall yn dechrau llithro o afael Morgannwg, wrth i Sussex adeiladu mantais batiad cyntaf sylweddol ar ail ddiwrnod yr ornest yng Nghaerdydd.

Ar ôl cyfyngu’r ymwelwyr i 326 am chwech, fe wnaeth George Garton (97) ac Ollie Robinson gosbi’r sir Gymreig gyda phartneriaeth swmpus o 138.

Roedd hynny ar ôl i Stiaan van Zyl daro 113 i osod y seiliau.

Erbyn diwedd y dydd, roedd yr ymwelwyr yn 481 am naw, ar y blaen o 196 yn eu batiad cyntaf, ac roedd Ollie Robinson heb fod allan ar 67.

Manylion y bore

Ar ôl perfformiad bowlio siomedig ar y diwrnod cyntaf, roedd hyd a lled y bowlio Morgannwg yn well o lawer ar ddechrau’r ail fore.

Ar ôl cyfnod o bwyso, daeth y wiced fawr i dorri’r bartneriaeth agoriadol, wrth i Aaron Thomason gael ei ddal yn gampus o isel gan Michael Hogan oddi ar ei fowlio’i hun, a’r sgôr yn 115 am un.

Daeth hanner canred Tom Haines – ei drydydd mewn pum batiad – oddi ar 98 o belenni ar ddiwedd awr gynta’r diwrnod ac roedd yr ymwelwyr yn hedfan erbyn amser cinio, ar 221 am un gyda Haines yn ddi-guro ar 87 a Stiaan van Zyl yn 51.

Daeth ail wiced bwysig i Forgannwg yn fuan wedi’r egwyl am ginio, pan darodd Hogan goes Haines o flaen y wiced heb iddo ychwanegu at ei sgôr amser cinio i ddod â phartneriaeth o 97 i ben. Ac fe allen nhw fod wedi cael ail wiced o fewn dim o dro pan ollyngodd Nick Selman gyfle am ddaliad slip i waredu Tom Clark.

Wicedi, un ar ôl y llall

Ar ôl ymlwybro i 254 am ddwy o fewn awr gynta’r prynhawn, daeth ergyd ddwbwl i Sussex wrth iddyn nhw golli’r capten Ben Brown a Tom Clark mewn pelenni olynol gan Dan Douthwaite.

Fe wnaeth Clark gamergydio’n syth ar ochr y goes a darganfod dwylo diogel James Weighell, tra bod Brown wedi chwarae ergyd wael oddi ar ei belen gyntaf wrth gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke.

Roedd Sussex wedi colli eu pumed wiced o fewn tair pelawd, wrth i’r troellwr ifanc Callum Taylor daro coes Delroy Rawlins o flaen y wiced, a’r sgôr yn 261.

Ond brwydrodd Stiaan van Zyl gan gyrraedd ei ganred mewn 146 o belenni, gan daro 14 pedwar wrth gyrraedd y garreg filltir, cyn cael ei ddal gan y wicedwr Cooke yn ergydio’n wyllt oddi ar fowlio Timm van der Gugten am 109, a’r sgôr yn 326 am chwech ar drothwy amser te.

Partneriaeth gadarn

Os oedd Sussex yn dechrau llithro, fe wnaeth Ollie Robinson a George Garton eu cynnal nhw wedyn gyda phartneriaeth gadarn am y seithfed wiced.

Arweiniodd Garton y ffordd wrth gyrraedd ei hanner canred oddi ar 68 o belenni yn ystod pelawd oedd yn cynnwys tair ergyd i’r ffin oddi ar fowlio James Weighell, ac fe gyrhaeddodd Robinson ei hanner canred yntau oddi ar 88 o belenni, gan daro pum pedwar.

Cafodd y bartneriaeth allweddol ei thorri pan darodd Hogan goes Garton o flaen y wiced am 97, dri rhediad yn brin o’i ganred cyntaf mewn criced dosbarth cyntaf – ddiwrnod yn unig ar ôl cael ei ben-blwydd yn 24 oed.

Erbyn hynny, roedd Sussex yn 464 am saith ac ar y blaen o 179, ond collon nhw ddwy wiced mewn dwy belen – am yr ail waith yn y batiad – wrth i David Lloyd waredu Stuart Meaker a Jack Carson wrth daro’u coesau o flaen y wiced.

Sgorfwrdd

Gêm arall yn dechrau llithro o afael Morgannwg

Sussex ar y blaen o 196 yn eu batiad cyntaf ar ddiwedd yr ail ddiwrnod