Mae John Dawes, cyn-gapten a chyn-hyfforddwr timau rygbi Cymru a’r Llewod, wedi marw yn 80 oed.

Enillodd 22 o gapiau i Gymru, a bu’n gapten ar chwe achlysur, gan arwain y tîm at Gamp Lawn ym 1971.

Roedd yn gapten ar dîm yn Llewod yn ystod y daith i Seland Newydd yn yr un flwyddyn, yr unig dro i’r Llewod guro’r Crysau Duon ar eu tomen eu hunain.

Fel hyfforddwr Cymru, enillodd John Dawes bedwar teitl Pum Gwlad gan gynnwys dwy Gamp Lawn a phedair Coron Driphlyg.

Bu’r canolwr yn hyfforddi gyda thîm y Llewod yn Seland Newydd ym 1977, hefyd.

“Wedi cyfnod o waeledd, bu farw John Dawes fore heddiw (Ebrill 16),” meddai Clwb Rygbi Trecelyn, ei glwb cyntaf.

“Bydd pawb sy’n ymwneud â’r gêm yn ymwybodol o stori a llwyddiannau gwych John.

“Fe wnaeth ei daith tuag at rygbi proffesiynol ddechrau gyda ni yma.

“Mae cydymdeimladau pawb yn Newbridge RFC yn mynd tuag at deulu John ar yr adeg trist hwn.”