Mae Mick McCarthy, rheolwr Clwb Pêl-droed Caerdydd, yn dweud bod yr ornest oddi cartref yn Reading heno (nos Wener, Ebrill 16) yn “gêm enfawr” i’r ddau dîm.

Mae Reading yn y seithfed safle ar 66 pwynt, bum pwynt oddi ar y gemau ail-gyfle, tra bod Caerdydd yn wythfed ar 59 o bwyntiau.

Bydd y ddau dîm yn gobeithio ennill tir ar Barnsley a Bournemouth sydd ar 71 pwynt – er bod sicrhau lle yn y gemau ail-gyfle yn edrych yn annhebygol i Gaerdydd bellach.

“Maen nhw’n dîm da,” meddai Mick McCarthy am Reading.

“Maen nhw newydd ddisgyn allan o’r chwech uchaf. Dylan nhw fod ar dân eisiau ein curo a chodi’n ôl i’r safleoedd gemau ail-gyfle

“Mae angen canlyniadau arnyn nhw oherwydd bod Bournemouth, Barnsley a thimau eraill o’u cwmpas wedi parhau i godi pwyntiau.

“Mae’n gêm enfawr iddyn nhw ac i ni. Mae pob gêm yn gêm fawr.

“Mae ganddyn nhw chwaraewyr da, a charfan dda. Bydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau er mwyn ennill.”

“Nid yw’r tymor byth ar ben”

Er bod gorffen yn safleoedd y gemau ail gyfle yn annhebygol i Gaerdydd, nid yw Mick McCarthy am roi’r ffidil yn y to.

“Nid yw’r tymor byth ar ben. Pe bai hynny’n wir yna ni fyddai chwaraewyr yn cystadlu wrth hyfforddi, ond nid yw hynny’n wir.

“Rydych chi bob amser yn chwarae am rywbeth: Rydych chi’n chwarae er eich balchder, rydych chi’n chwarae i’ch clwb, rydych chi’n chwarae i’r crys, rydych chi’n chwarae i’r cefnogwyr, rydych chi’n chwarae drosoch eich hun, rydych chi’n chwarae i’ch bywoliaeth.”