Mae Ashley Williams yn credu mai naill ai Joe Rodon neu Ethan Ampadu fydd yn olynu Gareth Bale yn gapten Cymru.
Bu cyn-amddiffynnwr Abertawe ac Everton yn gapten ar Gymru o 2012 i 2019, gan gynnwys ymgyrch Ewro 2016 wrth i Gymru gyrraedd y rownd gynderfynol.
Mae’n dweud bod gan amddiffynnwr Tottenham Hotspur, Joe Rodon ac Ethan Ampadu, sydd ar fenthyg o Chelsea gyda Sheffield United y rhinweddau i gymryd yr awenau.
“Pan fydd Gaz [Gareth Bale] yn ymddeol, pryd bynnag y bydd hynny, mae gennych ddau ymgeisydd clir,” meddai Ashley Williams wrth y BBC.
“Maen nhw’n fechgyn ifanc, ond rwy’n credu bod modd gweld y rhinweddau yn gynnar – mae Joe yn eu dangos ar y cae, tra bod Ethan yn eu dangos ar y cae ac oddi arno.
“Maen nhw’n ymgeiswyr da iawn.”
Cymerodd Gareth Bale, a fydd yn 32 oed ym mis Gorffennaf, yr awenau oddi wrth Ashley Williams yn gapten Cymru a bydd yn arwain ei wlad yn nhwrnament Ewro 2020.
Joe Rodon gyda “dwy ochr i’w gêm”
Mae Ashley Williams wedi adnabod Joe Rodon ers iddo fod yn hyfforddi gyda thîm cyntaf Abertawe yn ei arddegau.
Mae’r ddau yn dal i gadw mewn cysylltiad rheolaidd – ac roedd Ashley Williams ar ben ei ddigon pan wnaeth Rodon floc allweddol yn y fuddugoliaeth dros y Weriniaeth Tsiec fis diwethaf.
“Neidiais oddi ar y soffa gan weiddi ‘Ia Joe’,” meddai Ashley Williams.
“Dyna’r hyn yr ydym wedi bod yn siarad amdano ers blynyddoedd a blynyddoedd, ers i mi fod yn Abertawe.
“Dylai pobol yn Abertawe fod yn falch eu bod wedi cynhyrchu chwaraewr mor dda oherwydd mae ganddo ddwy ochr i’w gêm.
“Mae ganddo feddylfryd rhyfelgar ac ar y bêl mae’n dda iawn – gall dorri llinellau, gall ddod â’r bêl allan.”