Aberystwyth 0-1 Y Fflint

Er mawr ryddhad i’r ddau glwb yma, cadarnhawyd yr wythnos hon na fydd yr un tîm yn disgyn o’r Cymru Premier ar ddiwedd y tymor.

Llai o bwysau ar y gêm hon i Aberystwyth a’r Fflint nos Wener felly a’r ymwelwyr a fanteisiodd gan ennill o gôl i ddim yng Nghoedlan y Parc.

Amis ddim yn methu

Bu’n rhaid aros tan ddeunaw munud o’r diwedd am unig gôl y gêm ond nid oedd siâp methu ar Josh Amis, yn gorffen yn hyderus wedi i bêl hir obeithiol gael ei phenio i’w lwybr.

Nid yw’r tabl yn mynd i olygu llawer i’r pedwar isaf am weddill y tymor bellach ond mae’r fuddugoliaeth hon, eu trydedd yn olynol, yn codi’r Fflint dros Aberystwyth ac i’r nawfed safle.

 

*

 

Cei Connah 1-0 Y Barri

Arhosodd Cei Connah yn dynn ar sodlau’r Seintiau ar frig y tabl gyda buddugoliaeth o gôl i ddim dros y Barri yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy ddydd Sadwrn.

Daeth unig gôl y gêm hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf, peniad taclus Mike Wilde o groesiad dwfn Declan Poole.

Dylai’r tîm cartref fod wedi dyblu’r fantais cyn hanner amser ond yn anarferol iawn iddo ef, fe fethodd Callum Morris gic o’r smotyn.

Ras dau geffyl

Mae hi wedi bod yn ras dau geffyl ers sbel ac mae’r Nomadiaid yn aros yn ail yn y tabl, yn gyfartal ar bwyntiau gyda’r Seintiau ond gyda gwahaniaeth goliau sylweddol waeth.

Mae’n anodd gweld y naill dîm na’r llall yn gollwng pwyntiau yn erbyn neb arall felly mae’r bencampwriaeth yn debygol o gael ei phenderfynu yn y ddwy gêm yn erbyn ei gilydd, yng Nghroesoswallt ddydd Sadwrn nesaf ac yng Nghei Connah y Sadwrn canlynol.

 

*

 

Derwyddon Cefn 1-2 Met Caerdydd

Ynghyd ag Aberystwyth a’r Fflint, bydd y ddau dîm yma yn hynod falch na fydd disgyn o’r Cymru Premier y tymor hwn.

Dechreuodd Derwyddon Cefn y gêm ar y gwaelod a Met Caerdydd yn yr unfed safle ar ddeg ac felly y maent yn aros wedi i’r ymwelwyr fynd â hi o ddwy gôl i un yn y frwydr gwaelod-y-tabl ar y Graig ddydd Sadwrn.

Chubb yn rhoi tacsi i Cefn

Wedi i Eliot Evans roi’r ymwelwyr ar y blaen gyda foli blaen-troedar safonol, fe darodd Cefn yn ôl gyda gôl hyd yn oed gwell, cic rydd flasus Ryan Kershaw.

Ond roedd hi’n ‘tacsi i Cefn’ yn gynnar yn yr ail hanner wedi i amddiffyn gwarthus o gic gornel roi’r gôl fuddugol ar blât seimllyd i Matthew Chubb.

 

*

 

Y Bala 5-2 Caernarfon

Rhoddodd y Bala hwb enfawr i’w gobeithion o chwarae pêl droed Ewropeaidd y tymor nesaf wrth guro Caernarfon ar Faes Tegid ddydd Sadwrn.

Mae’r tîm sydd yn gorffen yn drydydd yn sicrhau lle yn Nghynghrair Ewropa ac mae gan y Bala bellach fantais o naw pwynt dros y gweddill yn y ras am y safle hwnnw. Mae Caernarfon yn chweched ac waeth iddynt hwy ddechrau paratoi nawr am y gemau ail gyfle.

Gêm agos!

Efallai nad oedd y sgôr terfynol yn awgrymu hynny ond roedd hi’n gêm agos am gyfnod hir.

Rhoddodd Chris Venables y tîm cartref ar y blaen cyn i ergyd wych Jacob Bickerstaff a chic o’r smotyn Mike Hayes roi Caernarfon ar y blaen ar hanner amser.

Tarodd y Bala yn ôl i unioni’r sgôr gyda gôl Jonny Spittle toc cyn yr awr cyn gorffen y gêm yn gryf.

Codi wedi’r cwymp

Will Evans a roddodd y Bala yn ôl ar y blaen, gan brofi ei fod wedi gwella’n iawn yn dilyn ei godwm cas yn y gêm ganol wythnos ym Mhenybont!

Rhoddwyd golwg fwy cyfforddus ar y fuddugoliaeth gan ddwy gôl hwyr, Venables ac Evans yn sgorio eu hail hwy o’r gêm. Dim ond un arall y mae Venebles ei hangen yn awr i gyrraedd Clwb 200 Uwch Gynghrair Cymru. Tipyn o gamp.

 

*

 

Y Drenewydd 5-1 Hwlffordd

Yr unig dîm yn yr hanner isaf ag unrhyw beth i chwarae amdano bellach yw’r Drenewydd ac fe ddangosodd hynny wrth iddynt roi crasfa i Hwlffordd ar Barc Latham ddydd Sadwrn.

Y Robiniaid yw’r unig rai sydd â gobaith gwirioneddol o ddal Hwlffordd yn y seithfed safle bellach, a gan eu bod hwy, yn wahanol i Hwlffordd, wedi sicrhau trwydded UEFA ar gyfer y tymor nesaf fe fyddai hynny’n golygu lle yn y gemau ail gyfle Ewropeaidd iddynt.

Goliau lu

Agorodd Tyrone Ofori’r sgorio mewn steil, yn troi’i ddyn cyn anelu ergyd gywir i gornel isaf y rhwyd wedi 27 munud.

Roedd hi’n ddwy o fewn munud diolch i Lifumpa Mwandwe ac yn dair cyn yr egwyl yn dilyn peniad Shane Sutton.

Rhwydodd Mwandwe ei ail ef a phedwaredd ei dîm ar ddechrau’r ail hanner cyn i Corey Shephard dynnu gôl gysur yn ôl i’r ymwelwyr. Ac am gôl! Mae gan Shephard ergyd o bellter maith ‘yn ei locer’ fel petai, gofynnwch i gefnogwyr Cambrian & Clydach. Ac fe ddangosodd hynny eto gyda’r berl hon o’r cylch canol!

Y Drenewydd a gafodd y gair olaf serch hynny gyda gôl hwyr Jordan Evans ac mae’r fuddugoliaeth gyfforddus yn eu rhoi o fewn pum pwynt i Hwlffordd gyda saith gêm i fynd.

 

*

 

Y Seintiau Newydd 1-0 Penybont

Arhosodd y Seintiau Newydd ar frig y tabl gyda buddugoliaeth dros Benybont ar Neuadd y Parc nos Sadwrn.

Mae’r rheolwr newydd, Anthony Limbrick, bellach wedi ennill tair allan o dair ers cymryd yr awenau.

Trobwynt

Wedi hanner cyntaf agos a di sgôr daeth trobwynt y gêm yn gynnar yn yr ail gyfnod gyda gôl Louis Robles.

Mae Ryan Brobbel wedi bod yn chwa o awyr iach i’r Seintiau ers dychwelyd o anaf a gwaith da ganddo ef a arweiniodd at y gôl hon, yn troi ei ddyn mewn steil cyn mesur ei bas yn berffaith i lwybr Robles, a gwnaeth yntau’r gweddill.

Honno a oedd unig gôl y gêm ond roedd hi’n ddigon i gipio’r tri phwynt a chadw’r Seintiau ar y brig ar wahaniaeth goliau’n unig.

 

*

 

Gwilym Dwyfor