Mae Warren Gatland, prif hyfforddwr tîm rygbi’r Llewod, wedi wfftio galwadau clybiau Lloegr am iawndal pe baen nhw’n rhyddhau eu chwaraewyr i ymarfer gyda’r garfan cyn mynd i Dde Affrica.

Mae disgwyl i’r garfan dreulio deng niwrnod yn Jersey cyn herio Japan mewn gêm baratoadol ym Murrayfield ar Fehefin 26.

Byddan nhw’n gadael am Dde Affrica wedyn, lle byddan nhw’n chwarae wyth gêm gan gynnwys y gyfres brawf yn erbyn pencampwyr y byd.

Mae’r Llewod yn cynnal trafodaethau â chlybiau Lloegr ar hyn o bryd, er mwyn eu hannog i ryddhau chwaraewyr os nad ydyn nhw ynghlwm wrth gemau ail gyfle’r Uwch Gynghrair.

“Yn amlwg, cafodd arian ei dalu i chwaraewyr Albanaidd gael chwarae yn erbyn Ffrainc yn y Chwe Gwlad yn ddiweddar,” meddai Warren Gatland.

“Dw i ddim yn gwybod beth oedd y ffigwr ond byddwn i’n tybio bod yna iawndal ariannol.

“Rydyn ni i gyd mewn sefyllfa lle, oherwydd nad yw cefnogwyr yn mynychu, mae’n edrych fel na fyddwn ni, o ran y Llewod, ar ochr bositif y fantolen.

“Mae’n edrych yn debygol y bydd y Llewod yn colli arian felly rydyn ni i gyd yn yr un cwch.

“Dw i ddim yn gwybod pam fod rhaid i bopeth ddod i lawr i arwyddion doler.

“Mae’r Llewod wedi bod yn wych am roi iawndal i glybiau yn y gorffennol a dw i’n gwybod fod yna gynllun eto ar gyfer clybiau sydd â chwaraewyr sy’n cael eu dewis.

“Maen nhw’n cael ffi sylweddol am eu rhyddhau nhw i fynd ar y daith.

“Dw i ddim yn credu ei bod yn afresymol gofyn i chwaraewyr ddod i mewn i helpu gyda’n paratoadau ni unwaith maen nhw wedi gorffen gyda’u clybiau.

“Dw i ddim yn gwybod pam fod rhaid cael taliad ychwanegol am hynny.”