Mae’r Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, wedi talu teyrnged i John Dawes, cyn-gapten a hyfforddwr Cymru a’r Llewod, yn dilyn ei farwolaeth yn 80 oed.

Roedd yn gyn-fyfyriwr Prifysgol Aberystwyth, ac yn ddiweddarach cafodd ei urddo’n Gymrawd y Brifysgol.

Roedd e’n gapten ar y Llewod oedd wedi curo Seland Newydd yn 1971, ac fe chwaraeodd e mewn pedair gêm brawf ac 19 o gemau i gyd.

Enillodd e 22 o gapiau dros Gymru, ac yn 23 oed, sgoriodd e gais yn ei gêm gyntaf fel canolwr yn erbyn Iwerddon yn Nulyn yn 1964.

Roedd yn aelod blaenllaw o dîm Cymru’r ‘Oes Aur’ ar ddechrau’r 1970au cyn i’w yrfa ddod i ben yn 1971 wrth i Gymru ennill y Gamp Lawn.

Enillodd e Bencampwriaeth y Pum Gwlad bedair gwaith fel hyfforddwr, gan gynnwys dwy Gamp Lawn yn 1976 a 1978, a phedair Coron Driphlyg.

Roedd e hefyd yn hyfforddwr ar y Llewod yn Seland Newydd yn 1977.

‘Rydym yn parhau’n falch iawn ohono’

“Mi roedd yn anrhydedd fawr i allu cyflwyno John yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth yn 2018,” meddai’r Athro Elizabeth Treasure.

“Fe fyddaf wastad yn cofio ei orfoledd wrth iddo dderbyn ei Gymrodoriaeth.

“Roedd mor hynod o falch a diolchgar i dderbyn y fath gydnabyddiaeth gan ei Brifysgol.

“Roedd yn bleser cwrdd â’i deulu ar achlysur mor hyfryd.

“Fel cyn-fyfyriwr a aeth ymlaen i gael gyrfa rygbi ddisglair, rydym yn parhau’n falch iawn ohono a’r hyn a gyflawnodd.

“Fe hoffwn rannu cydymdeimlad pawb ym Mhrifysgol Aberystwyth â theulu a ffrindiau John.”

John Dawes, cyn-gapten a hyfforddwr Cymru a’r Llewod, wedi marw yn 80 oed

Fe enillodd y Gamp Lawn yn chwaraewr ac yn hyfforddwr