Mae sylwebydd pêl-droed benywaidd o Gymru wedi datgelu rhai o’r negeseuon sarhaus mae hi’n eu derbyn fel dynes sy’n gweithio i Sky Sports.

Yn ôl Jeff Stelling, un o’i chydweithwyr ar raglenni pêl-droed Sky Sports, roedd e “mewn trallod” wrth weld rhai o’r negeseuon.

Aeth hi ati i bostio rhai o’r negeseuon yn gyhoeddus ar Twitter, gyda rhai ohonyn nhw’n dweud wrthi nad oedd hi’n “gallu gwneud yr hyn mae’n cael ei thalu i’w wneud”, a’i bod hi’n “ddynes anobeithiol arall yn ohebydd pêl-droed”.

Roedd negeseuon eraill yn ei galw hi’n “ddi-glem” ac yn dweud bod llais Jeff Stelling wrth siarad â hi’n awgrymu nad oedd e’n cytuno y dylai ei chyflog fod yn gyfartal â’i gyflog e.

Yn un o’r negeseuon mwyaf ffiaidd a phersonol, dywedodd rhywun fod Michelle Owen “yn warth llwyr fel mam fondigrybwyll”.

Cefndir

Daw’r sylwadau ar ôl iddi gyfaddef ddechrau’r wythnos iddi fethu â gweld bod chwaraewr wedi cael cerdyn coch wrth ohebu ar gêm Walsall yn erbyn Tranmere.

Eglurodd hi pam fod hynny wedi digwydd, sef fod piler yn y ffordd fel na allai weld y digwyddiad.

Mae’r neges yn gorffen drwy ddiolch “i’r rhan fwyaf am weld yr ochr ddoniol”.

Ond mae’n dweud mewn neges arall iddi “ddihuno i ragor o hyn [sylwadau sarhaus]”.

“Mae’n digwydd yn rhy aml o lawer i lawer gormod o bobol, galali rhywun anelu ei eiriau at y person anghywir â chanlyniadau ofnadwy,” meddai wedyn.

“Pryd mae cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn mynd i wneud cyfrifon yn atebol? Mae’n syrffedus.”

Mae’n dweud ymhellach fod ei mab wedi gweld bod y digwyddiad wedi ei hypsetio hi, ac mai’r “cyfan allwn ni ei wneud yw dangos i’r bobol nesaf fan hyn i fod yn well”.

‘Mewn trallod’

“Dw i mewn trallod o glywed am y sylwadau sarhaus mae @MichelleOwen7 wedi bod yn eu derbyn,” meddai Jeff Stelling.

“Mae hi’n ohebydd a chyflwynydd rhagorol dw i’n dwlu gweithio gyda hi.

“Mae hi’n digwydd bod yn berson gwych hefyd.

“Dydy hi ddim yn haeddu’r casineb yma – does neb yn [ei haeddu]. Plis allwn ni i gyd roi’r gorau iddi.”

Logo Abertawe

Streic wythnos CPD Abertawe fel safiad yn erbyn camdriniaeth ar-lein

Tri o chwaraewyr wedi cael eu targedu gan ymosodiadau hiliol o fewn y saith wythnos ddiwethaf

Yr Elyrch a’r Adar Gleision yn sefyll ynghyd yn erbyn hiliaeth cyn y gêm ddarbi

Bydd y gêm yn mabwysiadu’r slogan ‘Gwrthwynebwyr ar y cae – unedig yn erbyn hiliaeth’
Yan Dhanda

Pêl-droediwr Asiaidd Abertawe’n galw am waharddiad oes am negeseuon hiliol ar y we

Alun Rhys Chivers

“Dydy’r cwmnïau cyfryngau cymdeithasol ddim wedi fy argyhoeddi y byddan nhw’n gwneud yn well y tro nesaf” medd Yan Dhanda wrth golwg360