Mae Sussex wedi curo Morgannwg o wyth wiced yn y gêm Bencampwriaeth gyntaf yng Nghaerdydd.

Roedd Aaron Thomason heb fod allan ar 78 a Tom Clark yn ddi-guro ar 54 ar ddiwedd yr ornest, wrth iddyn nhw gwrso 154 i ennill.

Mae’n golygu bod Morgannwg heb fuddugoliaeth yn eu dwy gêm gyntaf.

Roedd y gêm yn un nodedig am reswm anarferol hefyd, gyda 18 o wicedi’n cwympo gyda choes y batiwr o flaen y wiced – sy’n efelychu’r nifer fwyaf erioed mewn gêm Bencampwriaeth.

Y diwrnod olaf

Dechreuodd Morgannwg y diwrnod olaf ar 258 am bump, ar y blaen o 62 yn eu hail fatiad gyda phum wiced yn weddill.

Kiran Carlson, oedd yn 127 heb fod allan dros nos, oedd y batiwr cyntaf allan, wrth iddo fe gael ei ddal gan Aaron Thomason oddi ar ymyl y bat yn y slip oddi ar fowlio Robinson am 132.

Ar ôl colli ei bartner, aeth Callum Taylor yn ei flaen i gyrraedd ei hanner canred cynta’r tymor hwn oddi ar 135 o belenni, wrth daro chwe phedwar ar ei ffordd i’r garreg filltir.

Ar ôl batiad amyneddgar a barodd 95 o belenni, cipiodd Robinson wiced Dan Douthwaite wrth daro’i goes o flaen y wiced, a’r bowliwr yn cipio’i ddegfed wiced yn y gêm.

Cipiodd Robinson ei ail wiced mewn dwy belen wrth daro coes James Weighell o flaen y wiced ac yntau heb sgorio am yr ail waith yn y gêm.

Gyda deunawfed batiwr allan â’i goes o flaen y wiced yn yr ornest, Timm van der Gugten, roedd Morgannwg wedi colli tair wiced am ddau rediad.

Roedden nhw i gyd allan am 349 pan gafodd Taylor ei ddal yn y cyfar gan Stiaan van Zyl oddi ar fowlio Robinson, a hwnnw’n gorffen yr ornest gyda 13 o wicedi, a naw wiced am 78 yn yr ail fatiad – y perfformiad gorau erioed gan unrhyw fowliwr i Sussex yn erbyn Morgannwg.

Sussex yn cwrso 154 i ennill

154 oedd y nod i Sussex, felly, ond dechreuon nhw’n ddigon siomedig wrth golli Tom Haines, a gafodd ei ddal yn y slip gan Andy Balbirnie oddi ar fowlio Michael Hogan, a’r ymwelwyr yn bymtheg am un.

Cwympodd yr ail wiced ar 42 wrth i Stiaan van Zyl gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke wrth ergydio pelen gan David Lloyd y tu allan i’r ffon agored.

Ar ôl sgorio 67 yn y batiad cyntaf, cyrhaeddodd Aaron Thomason ei ail hanner canred yn yr ornest oddi ar 78 o belenni. Roedd e wedi taro wyth pedwar erbyn hynny, wrth adeiladu partneriaeth allweddol gyda Tom Clark am y drydedd wiced.

Cyrhaeddodd Clark ei hanner canred yntau oddi ar 74 o belenni, gan daro saith pedwar ac un chwech ar ei ffordd i’r garreg filltir, ac ar ei ffordd i arwain ei dîm i’r fuddugoliaeth.

Dadansoddiad Alun Rhys Chivers

Ar ôl cael eu gwahodd i fatio, sgoriodd Kiran Carlson 127 yn y batiad cyntaf wrth i Forgannwg sgorio 285 i gyd allan.

Ond yr un hen stori oedd hi wrth i fatwyr cydnabyddedig Morgannwg siomi ar ddechrau’r batiad, gyda’r tîm yn 23 am dair o fewn dim o dro cyn i David Lloyd (84) a Carlson eu hachub gyda phartneriaeth bedwaredd wiced o 110.

Ollie Robinson oedd bowliwr gorau’r gêm, gan gipio pedair wiced am 50 yn y batiad cyntaf wrth fanteisio ar yr amodau a’r llain yn gynnar yn y gêm.

Rhaid rhoi clod hefyd i Jack Carson am ei dair wiced am 14 mewn saith pelawd wrth i Forgannwg roi eu hunain dan bwysau eto fyth.

Roedd y gêm hefyd yn nodedig am dair pelen hatric, rhywbeth sy’n anghyffredin iawn yn y gêm dosbarth cyntaf.

Roedd yr ysgrifen ar y mur i Forgannwg ar ddiwedd batiad cyntaf Sussex, wrth iddyn nhw sgorio 481 i roi blaenoriaeth o 196, gyda Stiaan van Zyl yn sgorio 113, Aaron Thomason 67, Tom Haines 87 a George Garton 97, dri rhediad yn brin o’i ganred cyntaf i Sussex ac yntau’n dathlu ei ben-blwydd yn 24 oed ar ddiwrnod cynta’r ornest.

Er gwaethaf ymdrechion Kiran Carlson gyda 132 yn yr ail fatiad – y Cymro cyntaf ers Jonathan Hughes yn 2005 i daro canred mewn dau fatiad yn yr un gêm, a’r batiwr cyntaf i Forgannwg ers i Marnus Labuschagne wneud hynny yn 2019 – roedd gormod o waith gan Forgannwg i’w wneud yn y pen draw, ac roedd y nod yn un gymharol fach i’r ymwelwyr ar y diwrnod olaf.

Digon siomedig oedd perfformiad bowlwyr Morgannwg hefyd, ac roedd hi’n gêm i’w hanghofio i James Weighell yn ei gêm gyntaf ers symud o Durham – ildiodd e 96 o rediadau mewn 15 pelawd yn y batiad cyntaf, a 27 rhediad mewn pedair pelawd yn yr ail fatiad.

Fe fydd sefyllfa’r bowlwyr yn destun pryder i Matthew Maynard, y prif hyfforddwr, gyda chadarnhad fod gan nifer ohonyn nhw anafiadau – yn eu plith mae un o’r bowlwyr mwyaf profiadol, yr Iseldirwr Timm van der Gugten.

Yn dilyn ymadawiad Graham Wagg ar ddiwedd y tymor diwethaf, ynghyd â Marchant de Lange, maen nhw’n brin o opsiynau o ran cyflymdra eithriadol gyda Michael Hogan yn cynnal yr uned fowlio yn 39 oed.

Dydy Matthew Maynard ddim yn un sy’n hoff o newid y tîm os nad oes chwaraewyr ar y cyrion sy’n haeddu eu lle, felly bydd hi’n ddiddorol gweld pa fowlwyr fydd yn chwarae yn y gêm nesaf yn Northampton – un opsiwn, efallai, yw Roman Walker o Wrecsam.

Kiran Carlson a Callum Taylor

Canred Kiran Carlson, ei ail yn y gêm, yn achub Morgannwg rhag embaras yn erbyn Sussex

Y Cymro cyntaf i sgorio canred yn y ddau fatiad mewn gêm Bencampwriaeth ers Jonathan Hughes yn 2005

Gêm arall yn dechrau llithro o afael Morgannwg

Sussex ar y blaen o 196 yn eu batiad cyntaf ar ddiwedd yr ail ddiwrnod
Kiran Carlson

Canred i Kiran Carlson, ond Morgannwg dan bwysau yn erbyn Sussex

Yr ymwelwyr yn 99 heb golli wiced wrth ymateb i gyfanswm batiad cyntaf Morgannwg o 285