Yn bencampwriaethau, cwpanau, gemau ail gyfle neu osgoi disgyn, gyda dim ond ychydig wythnosau o’r tymor ar ôl y mae gan y rhan fwyaf o dimau rhywbeth i chwarae amdano ar hyn o bryd. Ond sut hwyl a gafodd y Cymry’r penwythnos hwn tybed?

 

*

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Dechreuodd Joe Rodon yng nghanol amddiffyn Tottenham Hotspur am y bedwaredd gêm gynghrair yn olynol wrth iddynt gael gêm gyfartal ddwy gôl yr un yn erbyn Everton ym Mharc Goodison nos Wener.

Mae Ben Davies yn parhau i fod wedi’i anafu ac eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Gareth Bale, er mawr rwystredigaeth a dryswch i gefnogwyr Spurs a Chymru ar y cyfryngau cymdeithasol!

Roedd Nathan Broadhead ar y fainc i’r tîm cartref, yn dilyn ei ymddangosiad cyntaf yn y gynghrair fel eilydd yn erbyn Brighton nos Lun. Mae’r blaenwr o Fangor yn cael ei wobrwyo gan Carlo Ancelotti am ei berfformiadau diweddar i’r tîm dan 23, ble mae wedi sgorio naw gôl yn ei wyth gêm ddiwethaf.

Cafodd tynged Sheffield United ei selio nos Sadwrn wrth i golled yn erbyn Wolves gadarnhau mai yn y Bencampwriaeth y bydd y Blades yn chwarae’r tymor nesaf yn dilyn un o’r tymhorau gwaethaf gan dîm yn hanes Uwch Gynghrair Lloegr! Newyddion drwg i Ethan Ampadu felly a chwaraeodd yn y gêm hon ond dichon fod y Cymro wedi gwneud digon yn ystod ei dymor ar fenthyg i haeddu cyfle yn Chelsea y tymor nesaf, neu o leiaf wedi dal llygad ambell i glwb arall yn y brif adran.

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Dan James ym muddugoliaeth Man U dros Burnley ddydd Sul. Ac ar y fainc y gwyliodd Danny Ward ei dîm, Caerlŷr, yn curo Southampton i gyrraedd rownd derfynol y Cwpan FA hefyd.

 

*

 

Y Bencampwriaeth

Methodd Abertawe gyfle gwych i gau’r bwlch ar Watford yn yr ail safle wrth orfod bodloni ar gêm gyfartal ddwy gôl yr un yn erbyn y tîm ar y gwaelod, Wycombe, ar y Liberty ddydd Sadwrn.

Ar ôl dechrau’r ddwy gêm ddiwethaf ar y fainc, dechreuodd Connor Roberts hon mewn safle mwy ymosodol, ar y dde o’r tri blaen. Dychwelodd Liam Cullen i’r garfan yn dilyn anaf, ac yn wir, y blaenwr ifanc a achubodd bwynt i’r Elyrch ar ôl dod i’r cae fel eilydd, yn rhwydo o groesiad Roberts.

Roedd Ben Cabango yn ôl yn y garfan hefyd ar ôl cael ei neilltuo ohoni ganol wythnos am dorri rheolau Covid-19 y clwb. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd yr amddiffynnwr canol.

Dechreuodd Joe Jacobson i Wycombe ond ar y fainc yr oedd Alex Samuel wrth i’w gobeithion main hwy o osgoi’r gwymp ddiflannu’n gyflym. Yn debygol o ymuno â hwy yn yr Adran Gyntaf y tymor nesaf y mae Rotherham. Chwaraeodd Shaun MacDonald 80 munud cyntaf eu colled hwy yn erbyn Birmingham ddydd Sul.

Mae gobeithion Caerdydd o gyrraedd y gemau ail gyfle ar ben, a chwarae am hunan barch yn unig a oeddynt yn eu gêm gyfartal gôl yr un yn Reading nos Wener.

Kieffer Moore a sgoriodd gôl yr Adar Gleision, yn ennill a rhwydo cic o’r smotyn hwyr cyn i Reading ymateb gyda gôl hyd yn oed hwyrach. Dechreuodd Harry Wilson a Will Vaulks hefyd ond eilyddion heb eu defnyddio a oedd Jonny Williams, Mark Harris a Rubin Colwill.

Kieffer Moore

Roedd awgrym yr wythnos hon gan Mick McCarthy y bydd rhai o’r chwaraewyr ifanc fel Colwill gael mwy o gyfleoedd yn wythnosau olaf y tymor.

Cryfhaodd Bournemouth eu lle yn y safleoedd ail gyfle gyda buddugoliaeth nos Sadwrn yn erbyn Norwich, a oedd yn gorffwys ar eu rhwyfau o bosib wedi i’w dychweliad i’r Uwch Gynghrair gael ei gadarnhau gan ganlyniadau Abertawe a Brenford yn gynharach yn y dydd.

Tair gôl i un a oedd hi i’r Cherries, gyda David Brooks yn chwarae 70 munud a Chris Mepham yn treulio’r gêm yn gwylio o’r fainc.

Parhau i straffaglu ym mhen arall y tabl y mae Derby ar ôl colli yn Blackburn ddydd Sadwrn ond sgoriodd Tom Lawrence ei ail gôl mewn tair gêm sydd yn newyddion da i ni’r Cymry.

Roedd llu o Gymry’n rhan o’r gêm ddi sgôr rhwng Stoke a Preston ddydd Sadwrn. Dechreuodd y blaenwr 19 oed, Christian Norton, ei gêm gyntaf dros y clwb ar ôl creu argraff mewn ambell ymddangosiad oddi ar y fainc yn ddiweddar. Roedd Adam Davies, James Chester a Rhys Norrington-Davies yn y tîm dechreuol hefyd ac fe gafodd Sam Vokes ddeuddeg munud oddi ar y fainc, yn wahanol i Rabbi Matondo a arhosodd arni.

Chwaraeodd Andrew Hughes a Ched Evans i Preston ond aros ar y fainc a wnaeth Billy Bodin. Yn wir, yr amddiffynnwr, Hughes, a ddaeth agosaf at sgorio mewn gêm ddi fflach.

Ar ôl creu argraff oddi ar y fainc y penwythnos diwethaf, fe ddechreuodd George Thomas gêm ganol wythnos QPR yn Rotherham a chadw’i le ar gyfer buddugoliaeth ei dîm ym Middlesbrough ddydd Sadwrn.

Eilyddion heb eu defnyddio a oedd Joe Morrell i Luton a Tom Bradshaw i Millwall yn eu gemau hwy yn erbyn Watford a Brentford.

 

*

 

Cynghreiriau is

Cafodd Blackpool ganlyniad mawr y penwythnos hwn, yn trechu Sunderland i gryfhau eu lle yn safleoedd ail gyfle’r Adran Gyntaf. Gôl i ddim a oedd y sgôr gyda Chris Maxwell yn cadw llechen lân arall.

Mae Lincoln hefyd yn cadw’u lle yn y chwech uchaf, yn trechu Bristol Rovers ar ôl i Brennan Johnson greu unig gôl y gêm i Anthony Scully. Roedd Regan Poole yn nhîm yr Imps hefyd a Cian Harries yn amddiffyn Bristol Rovers.

Collodd Ipswich a Charlton gyfle da i gau’r bwlch ar y chwech uchaf gyda gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn ei gilydd. Chwaraeodd Gwion Edwards i’r Tractor Boys ac Adam Matthews i’r Addicks.

Mae gobeithion main Doncaster o gyrraedd y gemau ail gyfle yn fyw o hyd ar ôl curo’r Amwythig. Chwaraeodd Matthew Smith i Donny yn ôl ei arfer a braf iawn a oedd gweld Charlie Caton (fab Colin) yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y gynghrair i’r Amwythig, yn dod oddi ar y fainc am y chwarter awr olaf.

Matthew Smith

Ym mhen arall y tabl, fe gododd Wigan allan o safleoedd y gwymp gyda’u trydedd buddugoliaeth mewn tair gêm. Roedd Lee Evans yn rhan ganolog unwaith eto, yn rhwydo’r ail gôl, o’r smotyn, yn y fuddugoliaeth o ddwy i ddim.

Colli fu hanes Wes Burns gyda Fleetwood er iddo ef greu gôl ei dîm yn y golled o ddwy i un. Eilydd a oedd Luke Jephcott i Plymouth unwaith eto, yn chwarae ugain munud o’r gêm gyfartal gôl yr un yn Burton.

Arhosodd Casnewydd yn safleoedd ail gyfle’r Ail Adran er iddynt golli o gôl i ddim yn erbyn y tîm ar y brig, Caergrawnt. Dechreuodd Liam Shephard, Josh Sheehan ac Aaron Lewis i’r Alltudion. Ar y fainc yr oedd Joe Ledley.

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Adfywiodd Dunfermline eu gobeithion o gyrraedd gemau ail gyfle Pencampwriaeth yr Alban gyda buddugoliaeth o dair gôl i un yn erbyn Queen of the South ddydd Sadwrn. Mae tîm Owain Fôn Williams yn ôl yn y pedwar uchaf holl bwysig gyda dwy gêm o’r tymor arferol i fynd.

Chwaraeodd Christian Doidge ei ran wrth i Hibernian sicrhau eu lle yn wyth olaf Cwpan yr Alban gyda buddugoliaeth swmpus dros Stranraer ddydd Sul. Agorodd y Cymro’r sgorio gyda throad ac ergyd daclus yn y cwrt cosbi. Chwaraeodd ei ran yn nhrydedd a phedwaredd gôl ei dîm hefyd wrth iddynt ennill o bedair i ddim.

Dychwelodd James Lawrence i dîm St. Pauli yn dilyn salwch ar gyfer eu buddugoliaeth gyfforddus o bedair gôl i ddim yn erbyn Wurzburger Kickers ddydd Sadwrn. Ar ôl hanner cyntaf trychinebus i’r tymor mae’r Môr Ladron wedi bod yn hedfan ers mis Ionawr a bellach o fewn chwe phwynt i’r trydydd safle gyda phum gêm i fynd, safle a fyddai’n golygu gêm ail gyfle i gyrraedd y Bundesliga.

Ar ôl dechrau’r rhan fwyaf o gemau Dunajska Streda ers ymuno â hwy ar fenthyg o Barnsley ym mis Ionawr, deuddeg munud oddi ar y fainc a gafodd Isaac Christie-Davies o’u buddugoliaeth dros Trencin yn y Slovak Super Liga ddydd Sadwrn.

Ar y fainc yr oedd Aaron Ramsey wrth i Juventus golli o gôl i ddim yn Atalanta ddydd Sul hefyd ond aros arni a wnaeth o.

Roedd clybiau dau Gymro Uwch Gynghrair Croatia yn wynebu ei gilydd ddydd Sul wrth i Dinamo Zagreb Robbie Burton groesawu NK Istra Dylan Levitt. Roedd ymddangosiad prin o’r dechrau i Levitt, yn chwarae ychydig dros awr wrth i’w dîm golli o gôl i ddim.

Ac er i’w dîm ennill, roedd hi’n noson i’w anghofio i Burton druan. Dechreuodd ar y fainc cyn dod i’r cae gyda deg munud yn weddill. Derbyniodd ei gerdyn melyn cyntaf wedi dim ond pedwar munud cyn cael ei ail a’i anfon o’r cae ddau funud yn ddiweddarach! Nid yw’r arbrawf Adriatig wedi gweithio i’r Cymro ac mae’n anodd iawn ei weld yn aros yn Zagreb y tymor nesaf.

 

Gwilym Dwyfor