Mae chwe thîm pêl-droed o Loegr wedi cyhoeddi eu bod am ffurfio Uwch-gynghrair Ewropeaidd newydd, sef yr ‘European Super League’.

Mae Arsenal, Chelsea, Lerpwl, Manchester City, Manchester United a Tottenham wedi ymuno â chwe chlwb Ewropeaidd – tri o Sbaen a thri o’r Eidal – i greu’r gystadleuaeth newydd.

Bydd tri chlwb arall yn ymuno â’r grŵp sydd wedi torri i ffwrdd fel aelodau sy’n sefydlu’r gystadleuaeth newydd, a fydd yn dechrau “cyn gynted ag y bo’n ymarferol” i gynnwys 20 tîm yn y pen draw.

Dywedodd y clybiau mewn datganiad ar y cyd: “Mae deuddeg o glybiau pêl-droed mwyaf blaenllaw Ewrop heddiw wedi dod at ei gilydd i gyhoeddi eu bod wedi cytuno i sefydlu cystadleuaeth ganol wythnos newydd, yr European Super League, sy’n cael ei llywodraethu gan y clybiau wnaeth ei sefydlu.

“Mae AC Milan, Arsenal, Atletico Madrid, Chelsea, Barcelona, Inter Milan, Juventus, Lerpwl, Manchester City, Manchester United, Real Madrid a Tottenham Hotspur i gyd wedi ymuno fel clybiau sy’n sefydlu’r gystadleuaeth.

“Rhagwelir y bydd tri chlwb arall yn ymuno cyn y tymor cyntaf, ac mae disgwyl iddo ddechrau cyn gynted ag y bo’n ymarferol.”

Mae amseriad y cyhoeddiad yn dod cyn cyhoeddiad gan UEFA yn cadarnhau newidiadau i fformat Cynghrair y Pencampwyr ddydd Llun (Ebrill 19).

Mae disgwyl i’r corff llywodraethu Ewropeaidd gymeradwyo cynnydd o 32 i 36 o dimau o 2024 gyda’r strwythur presennol o wyth grŵp o bedwar yn cael ei ddisodli gan un gynghrair.

Byddai’r fformat, sy’n cael ei alw’n ’model y Swistir’, yn gweld pob tîm yn chwarae 10 gêm yn y cam cyntaf gyda gwrthwynebwyr yn cael eu pennu gan system haen.

Mae’r datganiad gan y 12 clwb yn ei gwneud yn glir nad ydynt yn credu bod y newidiadau arfaethedig hyn yn mynd yn ddigon pell.

Arian

Mae’r trefnwyr yn honni y bydd yn cynhyrchu mwy o arian na Chynghrair y Pencampwyr a bydd hynny’n arwain at fwy o refeniw drwy’r gêm.

Ychwanegodd y datganiad: “Bydd y twrnament blynyddol newydd yn darparu llawer mwy o dwf economaidd a chefnogaeth i bêl-droed Ewropeaidd drwy ymrwymiad hirdymor i daliadau undod heb eu capio a fydd yn tyfu yn unol â refeniw’r gynghrair.

“Bydd y taliadau undod hyn yn sylweddol uwch na’r rhai a gynhyrchir gan y gystadleuaeth Ewropeaidd bresennol ac mae disgwyl iddynt fod yn fwy na €10biliwn yn ystod cyfnod ymrwymiad cychwynnol y clybiau.”

Ymateb ffyrnig

Datgelodd newyddion am y gystadleuaeth i ffwrdd cyn iddi gael ei chyhoeddi’n swyddogol ac roedd eisoes wedi ysgogi ymateb ffyrnig gan UEFA a gwahanol gynghreiriau a chymdeithasau cenedlaethol.

Gwnaethant dynnu sylw at y ffaith nad oedd y gystadleuaeth wedi cael ei sancsiynu a bod y clybiau a’r chwaraewyr yn peryglu gwaharddiadau drwy gymryd rhan.

Cyhoeddodd FIFA gondemniad cryf ar ôl i’r cyhoeddiad gael ei wneud a galwodd am drafodaethau pellach.

Dywedodd FIFA mewn datganiad: “Yn ein barn ni, ac yn unol â’n statudau, dylai unrhyw gystadleuaeth bêl-droed, boed yn genedlaethol, yn rhanbarthol neu’n fyd-eang, adlewyrchu egwyddorion craidd undod, cynwysoldeb, uniondeb a dosbarthiad ariannol teg bob amser.

“At hynny, dylai cyrff llywodraethu pêl-droed ddefnyddio pob dull cyfreithlon, chwaraeon a diplomyddol i sicrhau bod hyn yn parhau.

“Yn erbyn y cefndir hwn, ni all FIFA ond mynegi ei anhapusrwydd tuag at ‘gynghrair gaeedig Ewropeaidd’ y tu allan i’r strwythurau pêl-droed rhyngwladol a heb barchu’r egwyddorion uchod.”

“Prosiect sinigaidd”

Dywedodd UEFA, a Chymdeithasau Pêl-droed Lloegr, Sbaen a’r Eidal, ynghyd â’r Uwch Gynghrair, LaLiga, Seria A, y byddent yn defnyddio’r holl ddulliau sydd ar gael i atal y “prosiect sinigaidd”.

“Pe bai hyn yn digwydd, hoffem ailadrodd y byddwn yn parhau i fod yn unedig yn ein hymdrechion i atal y prosiect sinigaidd hwn, prosiect sy’n seiliedig ar agwedd farus ychydig o glybiau ar adeg pan fo angen undod ar gymdeithas yn fwy nag erioed,” meddai’r Cymdeithasau mewn datganiad ar y cyd.

“Byddwn yn ystyried yr holl fesurau sydd ar gael i ni, ar bob lefel, yn farnwrol ac yn chwaraeon er mwyn atal hyn rhag digwydd. Mae pêl-droed yn seiliedig ar gystadlaethau agored a rhinweddau chwaraeon; ni all fod yn unrhyw ffordd arall.

“Fel y cyhoeddwyd yn flaenorol gan FIFA a’r chwe ffederasiwn, bydd y clybiau dan sylw yn cael eu gwahardd rhag chwarae mewn unrhyw gystadleuaeth arall ar lefel ddomestig, Ewropeaidd neu fyd-eang, a gellid gwrthod y cyfle i’w chwaraewyr gynrychioli eu timau cenedlaethol.

“Rydym yn diolch i’r clybiau hynny mewn gwledydd eraill, yn enwedig clybiau Ffrainc a’r Almaen, sydd wedi gwrthod ymrwymo i hyn.

“Rydym yn galw ar bawb sy’n hoff o bêl-droed, cefnogwyr a gwleidyddion, i ymuno â ni i ymladd yn erbyn prosiect o’r fath pe bai’n cael ei gyhoeddi.

“Digon yw digon.”