Mae’r byd pêl-droed wedi bod yn beirniadu cynlluniau i sefydlu Uwch Gynghrair Ewropeaidd, yr ‘European Super League’.

Mae AC Milan, Arsenal, Atletico Madrid, Chelsea, Barcelona, Inter Milan, Juventus, Lerpwl, Manchester City, Manchester United, Real Madrid a Tottenham Hotspur wedi ymrwymo i greu’r gystadleuaeth newydd.

Eu gobaith yw y bydd y gystadleuaeth yn disodli Cynghrair y Pencampwyr.

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Gary Neville, cyn gapten Manchester United, fod y cynlluniau’n “sgandal”.

“Mae dod â’r cynlluniau hyn ymlaen yn ystod Covid, yng nghanol argyfwng economaidd sy’n effeithio pob clwb, yn sgandal llwyr,” meddai ar Sky Sports.

“Dylai Manchester United a’r holl glybiau eraill sydd wedi ymrwymo i sefydlu’r gystadleuaeth yn erbyn gweddill Uwch Gynghrair Lloegr fod â chywilydd.

“Mae cytuno i ymuno â’r Super League yn ystod y tymor yn jôc, dylai’r awdurdodau gymryd pwyntiau oddi ar y chwech ohonyn nhw.”

Mae Laura McAllister, dirprwy gadeirydd pwyllgor merched UEFA sydd hefyd yn ceisio ennill sedd ar Gyngor FIFA, wedi condemnio’r cynlluniau.

Bydd Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth y Deyrnas Unedig Oliver Dowden yn gwneud datganiad ar y cynlluniau yn Nhŷ’r Cyffredin y prynhawn ’ma (Ebrill 19).

Ac mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi dweud nad yw’r Uwch Gynghrair Ewropeaidd yn “newyddion da i gefnogwyr” a byddai’n gweithio gyda’r awdurdodau pêl-droed “i wneud yn siŵr nad yw hyn yn mynd yn ei flaen yn y ffordd y mae’n cael ei gynnig ar hyn o bryd”.

“Siom, ond ddim yn sioc”

Wrth siarad â golwg360 dywedodd Dylan Ebenezer, sy’n cyflwyno’r rhaglen Sgorio ac yn gefnogwr Arsenal: “Mae e’n siom, ond ddim yn sioc yn anffodus.

“Mae e’n ergyd enfawr i’r cefnogwyr traddodiadol a’r hyn sy’n fy mhoeni i yw bod y perchnogion hyn ddim yn poeni am y cefnogwyr traddodiadol ond yn poeni mwy am y brand a denu cefnogwyr newydd.

“Dw i’n poeni eu bod nhw’n targedu cefnogwyr sy’n chwarae PlayStation, neu’n gwylio ar y we ac yn hapus i weld y goliau heb weld y gemau.

“Mae’r dyddiau nesaf yma’n mynd i fod yn anhygoel gan fod pethau’n newid mor gyflym.”

“Rhyfel cartref”

A gyda UEFA yn bygwth gwahardd chwaraewyr y clybiau rhag cynrychioli eu gwledydd, sut y mae Dylan Ebenezer yn meddwl y byddai hynny’n effeithio tîm rhyngwladol Cymru?

“Mae’n anodd proffwydo beth fydd diwedd hyn ond os yr eith hi i’r pen mae hi’n mynd i fod yn frwydr flêr achos mae pobol eisoes yn ei alw’n rhyfel cartref a does dim un rhyfel cartref wedi gorffen yn dda… maen nhw’n bethau gwaedlyd a phoenus i’r ddwy ochr.

“Ac mae’n swnio fel bod y 12 clwb yma wedi cymryd camau cyfreithiol yn barod i flocio unrhyw gamau gan UEFA.

“Ond y bygythiad fydd gwahardd o gystadlaethau Ewropeaidd a’r cam nesaf fydd gwahardd chwaraewyr rhag cynrychioli gwledydd a s’gwn i sut y bydd hynny’n effeithio chwaraewyr.

“Pwy a ŵyr, dw i’n hoffi meddwl bod chwarae i Gymru’n golygu gymaint i chwaraewyr Cymru – mae Gareth Bale wedi dangos hynny drwy gydol ei yrfa ac os byddai rhywun fel fe’n gallu dangos esiampl a throi cefn ar y cynllun efallai y byddai hynny’n gwneud gwahaniaeth.

“Ond beth sy’n poeni fi yw y bydd e’n anorfod y bydd e’n digwydd.”

“Undonog”

“Ar hyn o bryd mae pawb yn ymateb yn chwyrn ac yn dweud ‘dyna ni, mae’r gêm ar ben’ ond dw i’n meddwl bod y clybiau’n gwybod am bob un fydd yn boicotio bydd yna eraill sy’n fodlon prynu tocyn a mynd i wylio’r gemau ’ma.

“Fel rhywun sy’n gohebu ar gynghrair sydd â 12 clwb (JD Cymru Premier), a dw i ddim yn cymharu’r Seintiau Newydd a Chei Connah â Real Madrid a Barcelona, ond mae e’n gallu mynd yn undonog.

“Mae yna farchnad enfawr allan yna, ond bydd rhaid iddyn nhw fod yn ofalus oherwydd gallai pobol ddechrau syrffedu ar yr un peth er bod nhw’n glybiau enfawr.

“T’mod, ‘ti di methu El Classico, wel s’dim ots bydd un arall yr wythnos nesaf’ math o beth.”

“Tanseilio natur y gêm”

Ychwanegodd Dylan Ebenezer: “Mae e’n teimlo fel rhyw fformat Americanaidd, neb yn esgyn, neb yn disgyn ac efallai bod lot o berchnogion y clybiau’n gyfarwydd â hynny gan fod nifer ohonynt yn dod o America.

“Falle bod y syniad o relegation yn ddieithr iawn iddyn nhw, ond hanfod pêl-droed yw bod yna elfen o gystadleuaeth a bod clwb fel Caerdydd neu Abertawe yn gallu esgyn.

“Ti’n edrych ar Wrecsam nawr ar ôl cael yr holl arian ’ma, efallai y bydd llawer o’r cefnogwyr yn breuddwydio am fynd i fyny’r cynghreiriau ac wedyn mae rhywun yn dweud ‘na, mae yna ben llanw i beth allwch chi gyflawni fel clwb’.

“Mae e’n tanseilio natur y gêm.”

“Denu pobol at glybiau lleol”

“Gobeithio y gwneith hyn ddenu pobol at glybiau lleol.

“Gyda phobol yn troi yn erbyn pêl-droed fodern efallai bod yna gyfle i glybiau llai allu manteisio ar hyn.

“Efallai mai jyst ffantasi ydi ond os yw e’n cael pobol i edrych ar gemau eu clybiau lleol efallai y daw rhywbeth da ohono fe.”

Wel, mae grŵp cefnogwyr Clwb Pêl-droed Caernarfon, y ‘Cofi Army’ yn sicr yn cytuno â hynny…

Chwe thîm o Loegr yn cytuno i ffurfio Uwch-gynghrair Ewropeaidd newydd

Mae’r ‘European Super League’ wedi cael ei ddisgrifio fel “prosiect sinigaidd”