Mae Liam Cullen ymosodwr Cymru o dan 21 ag Abertawe, yn dweud ei fod yn barod i lenwi sgidiau Andre Ayew tra bod prif sgoriwr yr Elyrch wedi anafu.

Mae Abertawe’n disgwyl cael gwybod am ba mor hir y bydd Ayew, sydd wedi sgorio 15 gôl y tymor hwn, allan ar ôl cael ei anafu yn y gêm yn erbyn Wycome ddydd Sadwrn (Ebrill 17).

Daeth Cullen, 21, oddi ar y fainc i sgorio yn erbyn Wycombe er gwaethaf y ffaith ei fod ddim ond wedi hyfforddi dwywaith yn y tri mis diwethaf ar ôl dioddef anaf ei hun.

“Rwy’n teimlo’n ffit iawn,” meddai Cullen.

“Rwy’n amlwg eisiau chwarae i’r clwb hwn gymaint ag y gallaf ond yn y pen draw nid fy mhenderfyniad i yw hynny.

“Fe fydda i’n gwneud unrhyw beth mae’r rheolwr yn gofyn i mi wneud.”

Roedd Abertawe wedi ofni y byddai Cullen yn colli gweddill y tymor wedi iddo gael ei anafu yn eu buddugoliaeth yng Nghwpan yr FA dros Nottingham Forest ar 23 Ionawr.

Ond mae’n dweud bod ei ffêr yn “teimlo’n gryfach nag erioed” ar ôl llawdriniaeth ac mae’n awyddus i ddechrau’r gêm gartref yn erbyn Queens Park Rangers ddydd Mawrth (20 Ionawr)

Bydd Abertawe yn teithio i Reading ar Ebrill 25, cyn herio Derby ar 1 Mai ac yn gorffen y tymor gyda thaith i Watford saith diwrnod yn ddiweddarach.

Mae’r Elyrch yn edrych yn debygol o sicrhau lle yn y gemau ail-gyfle.

“Yn amlwg mae gennym bedair gêm enfawr nawr. Rydym yn mynd i wneud popeth o fewn ein gallu i geisio cael y canlyniadau sydd eu hangen arnom,” ychwanegodd Cullen.

Mae Cullen wedi sgorio tair gôl mewn 11 ymddangosiad y tymor hwn, ar ôl sgorio ei gôl gyntaf i’r clwb yn erbyn Reading ar ddiwrnod olaf y tymor diwethaf.