Bydd Dwayne Peel, cyn-fewnwr Cymru a’r Llewod, yn ailymuno â’r Scarlets fel prif hyfforddwr.

Roedd Dwayne Peel, sy’n hyfforddwr cynorthwyol gyda thîm Ulster ar hyn o bryd, wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda’r Gleision Caerdydd.

Ond, mae Gleision Caerdydd yn dweud eu bod wedi dod i gytundeb i’w ryddhau.

Yn sgil hyn, bydd Matt Sherratt yn ymuno â Gleision Caerdydd o dîm Worcester fel hyfforddwr cynorthwyol.

Cryfhau’r tîm oddi ar y cae

Dywedodd y Scarlets y bydd Dwayne Peel, a wnaeth chwarae i’r tîm 150 o weithiau, yn dychwelyd cyn y tymor nesaf.

Bydd hyn yn golygu fod y prif hyfforddwr presennol, Glenn Delaney, yn dod yn gyfarwyddwr rygbi ym Mharc y Scarlets.

“Mae gyrfa ragorol Dwayne yn chwarae rygbi yn siarad dros ei hun, ond mae e wedi dod yn hyfforddwr uchel ei barch yn ystod ei gyfnod gyda Bryste ac Ulster hefyd,” meddai Cadeirydd Gweithredol y Scarlets, Simon Muderack.

“Mae penodiad Dwayne yn rhan o’n cynllun hirdymor i gryfhau ein tîm oddi ar y cae, ac rydw i’n siŵr y bydd pawb sy’n gysylltiedig â’r Scarlets wedi’u cyffroi gan yr hyn y bydd yn ei gynnig.”

“Datrysiad perffaith”

Yn sgil hyn, bydd Matt Sherratt yn ymuno â Gleision Caerdydd o dîm Worcester fel hyfforddwr cynorthwyol.

Mae Gleision Caerdydd wedi dweud eu bod nhw “wrth eu boddau i groesawu hyfforddwr o safon Matt yn ôl i’w tîm wedi’r llwyddiant y cafodd yn ystod ei gyfnod cyntaf” yno.

“Roeddem ni’n siomedig i weld Matt yn gadael yn 2018, ond fe adawodd ar dermau da ac mae e wedi cynnal perthynas gref gyda ni,” meddai Prif Weithredwr Gleision Caerdydd, Richard Holland.

“Mae’n parhau i fod yn ffigwr poblogaidd iawn o fewn ein grŵp, mae e’n ymgorffori ein gwerthoedd diwylliannol, ac mae e eisiau bod yn rhan o ddyfodol cyffrous Caerdydd.

“Hefyd, mae’n hyfforddwr arbennig, felly mae’n ddatrysiad perffaith i sefyllfa a oedd ymhell o fod yn ddelfrydol.”