Mae Warren Abrahams, prif hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru, yn credu bod rhaid i’w dîm gael dechrau da yn erbyn yr Alban er mwyn datblygu perfformiad mwy cyflawn.

Y gêm ddydd Sadwrn fydd gêm olaf y tîm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, ac mae’r prif hyfforddwr yn credu bod gwersi pwysig i’w dysgu o’r gemau cychwynnol yn erbyn Ffrainc ac Iwerddon.

Rhwng y ddwy gêm, fe wnaeth tîm Cymru ildio 98 o bwyntiau, a methu â sgorio’r un pwynt eu hunain.

“Rydym ni’n canolbwyntio’n llwyr yr wythnos hon ar greu perfformiad sy’n ein cynrychioli ni fel grŵp, a’r hyn rydym ni’n sefyll drosto,” meddai Warren Abrahams.

“Byddwn ni’n gweithio ar bob agwedd o’r gêm yr wythnos hon, o sut rydyn ni’n dechrau’r gêm, a chanol ein perfformiad, at sut rydyn ni’n gorffen.

“Rydyn ni eisiau cynhyrchu perfformiad mwy cyson rhwng y ddwy chwiban.

“Nid oedd y ffordd y gwnaethon ni ddechrau’r ddwy gêm ddiwethaf yn ddigon da, ac rydyn ni wedi edrych ar y rhesymau dros hynny. Byddwn ni’n newid ychydig o bethau’r wythnos hon er mwyn sicrhau ein bod ni’n mynd i mewn i’r gêm gyda mwy o fwriad a phwrpas.

“Os cawn ni’r dechrau yn iawn, yna gallwn adeiladu ar hynny’n bwrpasol er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni’n chwarae’r gêm yn gyson.

“Mae’n rhaid i ni fod ar y droed flaen yn fuan er mwyn gallu rhoi cyfle i ni’n hunain chwarae’r ffordd rydyn ni am chwarae.

“Chwaraeodd yr Eidal gyda pherfformiad clasurol Eidalaidd yn erbyn yr Alban, fe wnaethon nhw ddyfalbarhau a pheidio â rhoi cyfle i’r Alban roi eu marc ar y gêm.

“Rydw i’n meddwl y bydd hi’n gêm eithaf cystadleuol i ni ddydd Sadwrn.

“Ar adegau fel hyn, mae’n rhaid cymryd pob cyfle ac mae gennym ni gyfle i chwarae gêm Chwe Gwlad arall.

“Mae’r gallu i drawsnewid y sefyllfa yn ein dwylo ni nawr. Dyna’r unig ffordd y gallwn ni edrych arni.”

“Beth sydd eisiau arnyn nhw yw buddsoddiad”

Alun Rhys Chivers

Mae tîm rygbi merched Cymru yn profi amser cythreulig o galed, gan ildio 98 o bwyntiau yn eu dwy gêm gynta’ ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad