Mae gan chwaraeon i ferched yn y Deyrnas Unedig y gallu i gynhyrchu £1bn mewn refeniw blynyddol erbyn 2030 – ond dim ond gyda’r gefnogaeth briodol – yn ôl astudiaeth newydd.

Yn ôl adroddiadau’r BBC, mae disgwyl i’r refeniw dreblu o’r £350m y flwyddyn bresennol yn ôl yr amcangyfrifon sydd wedi’u cyhoeddi gan Ymddiriedolaeth Chwaraeon y Merched a’r asiantaeth ‘Two Circles’.

Fodd bynnag, dywed yr astudiaeth fod angen cefnogaeth ar chwaraeon merched i gyflawni hynny.

Mae’n honni fod y diwydiant chwaraeon yn tanfuddsoddi mewn athletwyr benywaidd ac felly’n cyfyngu ar allu perchnogion hawliau i fanteisio ar fasnachu a chreu rhagor o ddiddordeb.

“Mae chwaraeon merched wedi bod yn tyfu ers i ni sefydlu ein sefydliad yn 2012,” meddai Tammy Parlour, Prif Weithredwr a Chyd-sylfaenydd Ymddiriedolaeth Chwaraeon Merched.

“Fodd bynnag, mae gan y rhan fwyaf o chwaraeon sy’n cael eu chwarae gan athletwyr benywaidd lawer i’w wneud o hyd i fod yn fasnachol.

“Er mwyn sicrhau newid hirdymor, ac er mwyn i chwaraeon merched chwarae rhan ganolog yn ein diwylliant yn y Deyrnas Unedig, rhaid i’r diwydiant chwaraeon gydnabod cyfrifoldeb cymdeithasol i adeiladu chwaraeon i bawb, a chysylltu gweledigaeth yn ymarferol ar gyfer chwaraeon merched ag elw masnachol hirdymor.”

Mae astudiaeth o’r enw Closing the Visibility Gap wedi darganfod fod mwy nag 80% o gefnogwyr yn y Deyrnas Unedig yn teimlo bod digwyddiadau mawr a darlledu ar y teledu wedi bod yn ffactorau pwysig yn nhwf chwaraeon merched.

Ond mae mwy na thraean (36%) o chwaraeon menywod yn defnyddio sianeli digidol yn unig i ddarlledu eu campau.

Ac mae llai na 30% o’r delweddau amlycaf ar wefannau a sianelau cymdeithasol cyrff llywodraethu chwaraeon y Deyrnas Unedig yn cynnwys athletwyr benywaidd – anghysondeb a oedd hyd yn oed yn fwy amlwg ar gyfer clybiau proffesiynol mewn pêl-droed, criced a rygbi.

“Rydym yn gobeithio y gall yr ymchwil hon chwarae rhan yn y gwaith o gefnogi’r diwydiant chwaraeon yn yr ymdrech hon, gan eu helpu i gyflwyno athletwyr a thimau benywaidd mewn ffyrdd sy’n taro deg gyda chefnogwyr, creu rhyngweithiadau ystyrlon i bartneriaid, a meithrin llwyddiant i chwaraeon menywod yn gyffredinol,” meddai Tammy Parlour wedyn.