Mae Angel Rangel, un o fawrion Clwb Pêl-droed Abertawe, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o’r gamp yn 38 oed.
Treuliodd e ddwy flynedd olaf ei yrfa gyda QPR yn Llundain ar ôl cyfnod euraid yn Uwch Gynghrair Lloegr gyda’r Elyrch cyn iddyn nhw gwympo i’r Bencampwriaeth.
Bryd hynny y gadawodd e dde Cymru am Lundain, ac fe ddaeth ei gêm olaf iddyn nhw fis Gorffennaf y llynedd yn erbyn Luton, pan gafodd ei anafu.
Roedd e wedi gobeithio chwarae am dymor arall ac er iddo fe wella, mae’n dweud bod sgwrs gyda’i blant – sy’n naw, 10 ac 17 oed – wedi arwain at y penderfyniad i roi’r gorau iddi.
“Daeth y ffenest ryngwladol ac fe wnes i dreulio pum niwrnod gartref gyda’r teulu, ac roedd fy mhlant bach yn dweud wrtha i eu bod nhw’n gweld fy eisiau i gymaint,” meddai.
“Dwi wedi bod yn QPR ers tair blynedd felly mae hynny’n golygu tair blynedd i ffwrdd o’r teulu ac mae hynny’n rhan fawr o’u bywydau nhw nad ydw i yno ar eu cyfer nhw.
“Fe wnaeth hynny dorri fy nghalon i’n fawr – ac fe wnaeth hynny’r penderfyniad yn un hawdd iawn. Dyna ni.
“Fe gymerodd ddiwrnod, ac roedd yn ddiwrnod a newidiodd y cyfan.
“Mae amser da gyda’r teulu’n bwysicach nag unrhyw beth arall a dyna oedd wedi fy arwain i wneud y penderfyniad mor gyflym.”
Gyrfa
Chwaraeodd e mewn 415 o gemau yng nghynghreiriau Lloegr, gan sgorio 12 gôl.
Chwaraeodd e yn yr Uwch Gynghrair, y Bencampwriaeth a’r Adran Gyntaf.
Treuliodd e saith mlynedd yn yr Uwch Gynghrair gyda’r Elyrch, ac roedd e’n aelod o’r garfan enillodd Gwpan Capital One yn 2013.
“Roedd dod o Sbaen yn chwaraewr lled-broffesiynol a llofnodi fy nghytundeb proffesiynol cyntaf yn 24 oed yn yr Adran Gyntaf gydag Abertawe, a phedair blynedd wedyn yn cael dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair, yn arbennig,” meddai.
“Mae modd gweld chwarae yn yr Uwch Gynghrair fel y wobr ond nid i fi – dw i’n meddwl am y gamp yn nhermau’r pedair blynedd o waith i gyrraedd y fan honno.
“Dyna sy’n fy ngwneud i’n falch.”
Mae’n dweud y bydd e’n parhau i weithio yn y byd pêl-droed ar ôl cael seibiant am ychydig.
Cyfnod llwyddiannus yn Abertawe
“Des i i Gymru heb wybod Saesneg, do’n i ddim yn gwybod unrhyw beth am Abertawe, ond dyma’r cyfle roedd rhaid i fi ei gymryd, ac mae wedi talu ar ei ganfed mewn cynifer o ffyrdd,” meddai wrth wefan Abertawe, gan ychwanegu y bydd e’n dychwelyd i Stadiwm Liberty yn gefnogwr pan ddaw’r cyfle.
“Ro’n i’n cymryd risg ond roedd rhaid i fi ddilyn fy mreuddwyd.
“Dim ond am fod oedi am rai oriau gydag awyren y tîm sgowtio o Barcelona y ces i fy sgowtio, felly fe wnaethon nhw wylio gêm arall a’m denu i – er eu bod nhw’n gwylio rhywun arall!
“Ffawd oedd hynny, mae’n rhaid.
“Rydyn ni i gyd yn gwybod beth wnaethon ni ei gyflawni yn yr amser yna, ac roedd yn anhygoel.
“Mae’n fy ngwneud i’n emosiynol iawn wrth feddwl yn ôl.
“Ond nid dim ond yr hyn wnaethon ni ei gyflawni oedd e, ond y ffordd y gwnaethon ni hynny.”