Mae’r Athro Laura McAllister wedi colli pleidlais i ennill lle ar Gyngor FIFA.

Hi yw dirprwy gadeirydd pwyllgor pêl-droed merched UEFA.

Yr Eidales Evelina Christillin enillodd y bleidlais, gan gael ei hailethol o 33 o bleidleisiau i 22.

Roedd Laura McAllister am weld mwy o gydbwysedd rhwng y clybiau mawr a’r cyrff llywodraethu ar adeg pan fo’r clybiau mawr yn ceisio ennill mwy o ddylanwad ar y gamp.

Roedd hi’n gapten ar ei gwlad 24 o weithiau, ac roedd hi am fod y ddynes gyntaf ar y corff llywodraethu.

“Mae gwell cydbwysedd yn dda i’r cefnogwyr, mae’n dda i bartneriaid masnachol ac mae’n dda i’r chwaraewyr a’r sawl maen nhw’n eu hysbrydoli,” meddai cyn y bleidlais.

“Dyna pam fy mod i’n cefnogi gweledigaeth UEFA i greu a chynnal cydbwysedd cystadleuol i dyfu ein gêm.”

Yn y gorffennol, mae hi wedi trafod yr angen i gael mwy o gydbwysedd rhwng dynion a merched.

Roedd hi hefyd wedi bod yn galw am werthu hawliau darlledu’r dynion a’r merched ar wahân er mwyn rhoi sylw teilwng iddyn nhw yn eu tro.