Mae Alun Wyn Jones, capten tîm rygbi Cymru a’r Gweilch, wedi datgelu iddo lofnodi cytundeb deuol newydd am flwyddyn arall.

Mewn neges ar ei dudalen Instagram, mae’n dweud iddo lofnodi’r cytundeb dro yn ôl, gan benderfynu oedi cyn gwneud cyhoeddiad.

“Dw i’n falch iawn o fod wedi gwneud hynny ac o gael parhau â’m gyrfa gyda’m rhanbarth,” meddai.

“Yn yr amserau gwahanol hyn oddi ar y cae a rygbi’n ganolbwynt ar y cae, do’n i ddim yn teimlo bod yr amser yn iawn i gyhoeddi pan wnes i lofnodi’r papur, ond dw i’n falch iawn o fod wedi ymestyn fy nghytundeb presennol am flwyddyn arall.

“Dw i’n ddiolchgar o gael parhau i wneud yr hyn dw i’n caru ei wneud a chael parhau i chwarae i’r Gweilch.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi yn ystod fy ngyrfa hyd yn hyn, ac yn enwedig trwy’r amserau anod hyn. Diolch, Alun Wyn.”