Roedd canlyniadau cymysg i dimau pêl-droed Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd heno (nos Fawrth, Ebrill 20).

Abertawe 0-1 QPR

Collodd Abertawe o 1-0 yn erbyn QPR yn Stadiwm Liberty, gyda’r gôl fuddugol gan Lyndon Dykes yn dod ar ôl 88 munud.

Mae’r canlyniad yn gadael yr Elyrch â “thasg enfawr” wrth geisio ennill dyrchafiad awtomatig, yn ôl eu rheolwr Steve Cooper.

Mae naw pwynt yn gwahanu’r Elyrch, sy’n drydydd, a Watford yn yr ail safle yn y Bencampwriaeth gyda thair gêm yn weddill a naw pwynt ar gael.

Mae gan Watford wahaniaeth goliau o 14 dros yr Elyrch ar ôl iddyn nhw guro Norwich yn gynharach.

Brentford 1-1 Caerdydd

Mae gobeithion Brentford o ennill dyrchafiad awtomatig yn y fantol ar ôl i’w gêm gartref yn erbyn Caerdydd orffen yn gyfartal 1-1.

Chawson nhw mo’u helpu gan Watford chwaith.

Sgoriodd Kieffer Moore o’r smotyn cyn i Tariqe Fosu unioni’r sgôr ag ergyd o bell yn dilyn camgymeriad gan y golwr Alex Smithies.

Ond mae’r Adar Gleision allan o’r ras am le yn y gemau ail gyfle erbyn hyn – maen nhw ddeg pwynt islaw’r safleoedd ail gyfle gyda naw pwynt ar gael.

Casnewydd 2-0 Crawley

Mae Casnewydd yn seithfed yn yr Ail Adran ar ôl curo deg dyn Crawley o 2-0 yn Rodney Parade.

Sgoriodd Liam Shephard “gôl wych” yn gynnar yn yr ail hanner, yn ôl ei reolwr Mike Flynn.

Tarodd e ergyd o gornel y cwrt cosbi ar ôl casglu’r bêl yn gelfydd.

Cafodd Tom Nichols gerdyn coch am daro Shephard â’i benelin cyn i Aaron Lewis ddyblu mantais yr Alltudion yn hwyr yn yr ornest gyda chymorth yr eilydd Nicky Maynard.