Mae dyfodol yr Uwch Gynghrair Ewropeaidd arfaethedig yn y fantol ar ôl i chwech o brif glybiau pêl-droed Lloegr dynnu’n ôl yn dilyn ymateb negyddol eu cefnogwyr.
Daeth cadarnhad bellach na fydd Arsenal, Chelsea, Lerpwl, Manchester City, Manchester United a Spurs yn ymuno â’r gystadleuaeth ddadleuol newydd.
Mae’r trefnwyr bellach yn dweud bod eu cynlluniau’n cael eu hadolygu, er eu bod nhw’n dal o’r farn fod y cynnig “yn cyd-fynd yn llwyr â chyfraith a rheoliadau Ewropeaidd”.
Ond maen nhw’n dweud ymhellach fod “rhaid i’r status quo newid”.
Mae Aleksander Ceferin, llywydd UEFA, wedi croesawu’r newyddion na fydd clybiau Lloegr yn rhan o’r gystadleuaeth, gan ddweud bod rhaid eu “hedmygu” am “gyfaddef eu camgymeriad”.
Dyfodol swyddogion y clybiau
Ond nid dyna ddiwedd y mater, ac mae disgwyl i ganlyniadau penderfyniad y chwe chlwb – i ymuno yn y lle cyntaf, ac yna i dynnu’n ôl – gael eu gweld a’u teimlo am beth amser eto.
Mae Daniel Levy, cadeirydd Spurs, wedi ymddiheuro gan ddweud bod y clwb yn “difaru’r pryder” a gafodd ei achosi i’r cefnogwyr.
Mae Arsenal hefyd wedi ymddiheuro am wneud “camgymeriad”.
Mae Ed Woodward wedi cyhoeddi y bydd e’n gadael ei swydd yn is-gadeirydd gweithredol Manchester United erbyn diwedd y flwyddyn.
Yn ôl Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Chelsea, dylai nifer o aelodau o fwrdd y clwb gamu o’r neilltu.
Ond mae’r sylwadau negyddol yn mynd ymhell y tu hwnt i hynny, gyda nifer o sylwebyddion, rheolwyr a chwaraewyr yn ymateb yn chwyrn i’r cynlluniau.
Mae Jamie Carragher, cyn-gapten Lerpwl, yn dweud na ddylai’r Fenway Sports Group, perchnogion y clwb, barhau wrth y llyw ar ôl i’r rheolwr Jurgen Klopp, y capten Jordan Henderson ac un o’r mawrion, Syr Kenny Dalglish, feirniadu’r gystadleuaeth.