Mae Clwb Criced Morgannwg wedi denu’r Cymro 30 oed, James Harris ar fenthyg o Middlesex am bythefnos.

Fe ddaw yn sgil anafiadau i nifer o fowlwyr amlyca’r sir ar ddechrau’r tymor.

Bydd y chwaraewr amryddawn o Abertawe ar gael ar gyfer y gemau yn erbyn Swydd Northampton a Chaint yn y Bencampwriaeth.

Daeth e drwy Academi’r clwb, gan chwarae yn ei gêm gyntaf ar lefel dosbarth cyntaf yn 16 oed yn 2007.

Ddyddiau’n unig cyn ei ben-blwydd yn 17 oed, fe wnaeth e dorri record fel y bowliwr ieuengaf erioed i gipio deg wiced mewn gêm, wrth gipio 12 am 118 yn erbyn Swydd Gaerloyw ym Mryste.

Ond fe adawodd e am Middlesex ar ddiwedd tymor 2012 wrth iddo fe droi ei olygon at gynrychioli Lloegr, gan ddychwelyd ar fenthyg am ddwy gêm yn 2014.

Mae e wedi chwarae mewn 148 o gemau dosbarth cyntaf i gyd, gan gipio 494 o wicedi ar gyfartaledd o 28.73.

Mae e hefyd wedi sgorio bron i 4,000 o rediadau dosbarth gyntaf ar gyfartaledd o 23.40 ac wedi taro 18 hanner canred.

Croeso ’nôl

Mae Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, wedi croesawu James Harris yn ôl i Forgannwg, gan ddweud bod y clwb “wrth eu boddau”.

“Ry’n ni wedi dioddef anafiadau i Ruaidhri Smith a Jamie McIlroy dros yr wythnosau diwethaf, ac fe wnaeth cyhyr Timm van der Gugten fynd yn dynn yn ystod y gêm yn erbyn Sussex, sy’n golygu y bu’n rhaid i ni gryfhau’r adran fowlio a dod ag eilydd i mewn.

“Mae James yn fowliwr gwych a chanddo fe record dosbarth cyntaf dda iawn ac mae’n adnabod y clwb drwyddi draw, ac fe fydd e’n ffitio i mewn i’r garfan yn hawdd.”

‘Clwb fy mebyd’

Mae James Harris yn dweud ei fod e “wedi cyffroi” o gael dychwelyd i Forgannwg, “clwb fy mebyd”.

“Mae Morgannwg yn glwb sy’n agos iawn at fy nghalon a phan ges i wybod fod cyfle i ymuno ar fenthyg, fe wnes i neidio arno,” meddai.

“Dw i’n nabod Mark Wallace a Matt Maynard [y prif hyfforddwr] yn dda iawn, ac mae gyda fi barch mawr at y ddau ohonyn nhw, ac alla i ddim aros i gael dechrau, a gobeithio y galla i gyfrannu i’r tîm dros y bythefnos nesaf.”