Fe fydd tudalennau YouTube a Facebook Sgorio, ac S4C Clic, yn darlledu’r gêm fawr rhwng timau pêl-droed Met Caerdydd a’r pencampwyr Abertawe yn Uwch Gynghrair Merched Cymru yng Nghyncoed heno (nos Fercher, Ebrill 20, 7.30yh).

Maen nhw’n gyfartal ar 28 pwynt yr un yn y tabl ar drothwy’r gêm, ond mae Abertawe wedi chwarae un gêm yn llai wrth anelu i wneud y ‘dwbl’ dros eu gwrthwynebwyr yn dilyn eu buddugoliaeth o 1-0 yn y gêm gyfatebol ar ddechrau’r tymor.

Yn ôl Kerry Harris, rheolwr Met Caerdydd, mae’r tîm yn nerfus ond yn hyderus yn sgil eu perfformiadau diweddar.

“Rydyn ni wedi cyffroi,” meddai.

“Efallai y bydd yna nerfau o ystyried beth sydd yn y fantol yn y gêm hon ond ar y cyfan, rydyn ni’n perfformio’n dda ar hyn o bryd.

“Rydyn ni’n gweithio’n galed iawn wrth ymarfer ac yn edrych ymlaen ati.

“Rydyn ni’n ymwybodol iawn y gallai’r canlyniad roi syniad i ni o ran pwy fydd yn codi’r tlws.”

Yn ôl Sophie Hancocks, un o chwaraewyr Met Caerdydd, hon yw’r gêm mae’r chwaraewyr i gyd yn edrych ymlaen ati bob tymor.

“Yn nhermau’r paratoadau, rydyn ni’n gweithio’n galed iawn ac wedi bod yn gwneud hynny dros yr wythnosau diwethaf.

“Rydyn ni’n hyderus iawn hefyd.”

Y fantais o fod ar y brig?

Yn ôl Colin Staples, rheolwr Abertawe, mae gan ei dîm fantais seicolegol fel y tîm sydd ar frig y tabl.

“Yn seicolegol, mae’n well bod ar y brig nag yn ail, yn ei chwrso hi, ond yn fy meddwl i a meddyliau’r chwaraewyr, mae hi bron â bod yn ffeinal cwpan nos Fercher ac yn gêm bwysig iawn i’r ddau dîm.

“Os yw’r naill neu’r llall ddim yn ‘troi i fyny’, byddwn ni’n diodde’r canlyniadau.

“Dw i’n disgwyl gêm debyg i’r un yn Llandarcy, oedd yn dynn ac yn gystadleuol iawn.

“Doedd fawr o gyfleoedd i’r naill dîm na’r llall, ond roedden ni’n ddigon lwcus i fanteisio ar ein cyfle pan ddaeth e.

“Ar hyn o bryd, rydyn ni’n gwarchod record dda o ran llechi glân ac rydyn ni eisiau parhau i wneud hynny.

“Gall pobol ddisgwyl perfformiad gonest fydd yn llawn angerdd, ac ambell dric creadigol hefyd.”