Mae gwerth Netflix wedi gostwng yn sylweddol wedi i’r cwmni gyhoeddi eu bod nhw wedi methu â chyrraedd targedau i ddenu tanysgrifwyr newydd yn chwarter cyntaf 2021 – a hynny wrth i gyfyngiadau clo’r coronafeirws ddechrau gael eu llacio.
Fe wnaeth cyfranddaliadau’r cwmni ostwng 11% wedi iddi ddod i’r amlwg fod Netflix wedi denu pedair miliwn o danysgrifwyr dros y byd yn nhri mis cynta’r flwyddyn, gan fethu â chyrraedd eu targed o chwe miliwn.
Yn ystod 2020, fe wnaeth nifer eu gwylwyr gynyddu’n sylweddol gan fod pobol yn sownd yn eu cartrefi yn sgil y cyfnod clo.
‘Ansicrwydd’ yn sgil y pandemig
Mewn llythyr i gyfranddalwyr, dywed y cwmni fod y pandemig wedi creu “ansicrwydd”.
“Rydym ni’n credu bod llai o bobol yn talu am aelodaeth gan fod nifer fawr wedi tanysgrifio yn 2020, a bod llai o gynnwys yn hanner cyntaf y flwyddyn hon wrth i Covid-19 achosi oedi mewn cynhyrchu,” meddai’r cwmni.
“Rydym ni’n parhau i ddisgwyl ail hanner cryf i’r flwyddyn wrth i gyfresi newydd o raglenni llwyddiannus ddychwelyd, a gyda lein-yp ffilmiau cyffrous.
“Yn y tymor byr, mae peth ansicrwydd yn sgil Covid-19; yn y tymor hir, mae twf gwasanaethau ffrydio dros y byd yn dueddiad amlwg mewn adloniant, wrth iddyn nhw gymryd lle’r teledu.”
Y llynedd, fe wnaeth 37m o bobol danysgrifio o’r newydd i Netflix ac erbyn hyn, mae 208m o bobol wedi tanysgrifio i’r gwasanaeth.
Wrth frwydro yn erbyn gwasanaethau ffrydio eraill megis Disney, Apple, ac Amazon, dywed Netlix y byddan nhw’n gwario dros £12.2bn ar gynnwys eleni.
Ar ôl y cyhoeddiad fod y cwmni wedi methu â denu chwe miliwn o danysgrifwyr, fe wnaeth gwerth y cwmni ostwng o £176bn i £156bn.