Mae’r byd gwleidyddol yn yr Unol Daleithiau wedi bod yn ymateb ar ôl i lys gael Derek Chauvin, y cyn-blismon, yn euog o lofruddio George Floyd ym Minneapolis, Minnesota.

Roedd Derek Chauvin yn wynebu tri chyhuddiad mewn cysylltiad â’r farwolaeth sydd wedi arwain at brotestiadau gwrth-hiliaeth o amgylch y byd.

Cafwyd e’n euog o lofruddiaeth o’r ail radd, llofruddiaeth o’r trydydd gradd, a dynladdiad o’r ail radd, ac fe gafodd ei dywys o’r llys mewn cyffion.

Mae e wedi’i gadw yn y ddalfa hyd nes y bydd e’n cael ei ddedfrydu ymhen rhyw ddeufis, ac mae’n wynebu hyd at 40 mlynedd o garchar.

Bu farw George Floyd, 46, ar Fai 25 y llynedd ar ôl i Derek Chauvin bwyso ar ei wddf â’i ben-glin am naw munud a 29 eiliad.

Fe fydd tri phlismon arall sydd wedi’u cyhuddo am eu rhan ym marwolaeth George Floyd yn mynd gerbron llys ym mis Awst.

“Llofruddiaeth yng ngolau dydd”

Mae Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau, wedi croesawu’r dyfarniad, gan ddweud bod marwolaeth George Floyd yn “llofrudiaeth yng ngolau dydd, a’i fod wedi rhwygo’r dallwyr fel bod yr holl fyd” yn gweld hiliaeth systemig.

“Ond nid yw’n ddigon. Ni allwn ni stopio yn fan hyn. Rydym ni am gyflwyno newid gwirioneddol, a diwygio,” meddai wedyn.

“Gallwn, ac mae’n rhaid i ni, wneud mwy i leihau’r tebygrwydd y bydd trasiedïau fel hyn yn digwydd byth eto.”

“Ni ddylai neb fod uwchlaw’r gyfraith,” ychwanegodd mewn trydariad.

“Ni allwn ni orffwys”

“Heddiw, fe wnaeth rheithgor ym Minneapolis y peth iawn,” meddai Barack Obama, cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau.

“Am bron i flwyddyn, fe wnaeth marwolaeth George Floyd dan ben-glin yr heddlu atseinio dros y byd – gan ysbrydoli murluniau a gorymdeithiau, sbarduno sgyrsiau mewn ystafelloedd byw, a deddfau newydd. Ond mae cwestiwn symlach wedi aros: a fyddai cyfiawnder?

“Yn yr achos yma, o leiaf, mae gennym ni ein hateb. Ond os ydym ni’n bod yn onest â ni ein hunain, rydym ni’n gwybod fod a wnelo cyfiawnder â llawer iawn mwy nag un dyfarniad mewn un achos llys.

“Mae cyfiawnder gwirioneddol yn ein gorfodi ni i ddod i delerau â’r ffaith fod Americanwyr Du yn cael eu trin yn wahanol, bob dydd.

“Mae’n ein gorfodi ni i gydnabod fod miliynau o’n ffrindiau, teulu, a chyd-ddinasyddion yn byw mewn ofn mai’r tro nesaf y bydden nhw’n dod wyneb yn wyneb â’r gyfraith fyddai’r tro olaf.

“Ac mae’n ein gorfodi ni i wneud y gwaith hanfodol i wneud yr America rydym ni’n ei hadnabod yn debycach i’r America rydym ni’n credu ynddi, sydd weithiau’n waith diddiolch, ac yn aml yn anodd.

“Er bod y dyfarniad heddiw wedi bod, efallai, yn gam hanfodol ar y daith tuag at gynnydd, roedd ymhell o fod yn ddigonol. Ni allwn ni orffwys,” ychwanegodd Barack Obama mewn datganiad.

“Mae’n rhaid i ni barhau â’r diwygiadau cadarn a fydd yn lleihau, ac yn y pen draw yn cael gwared ar ragfarnau hiliol o’n system gyfiawnder droseddol.

“Bydd rhaid i ni ddyblu ein hymdrechion i ymestyn y cyfleoedd economaidd sydd ar gael i’r cymunedau hyn sydd wedi cael eu gwthio i’r cyrion ers amser hir.

“Ac wrth i ni barhau i frwydro, gallwn gael nerth gan y miliynau o bobol – yn enwedig pobol ifanc – sydd wedi gorymdeithiau, a phrotestio, a siarad dros y flwyddyn ddiwethaf, gan daflu goleuni ar annhegwch a galw am newid.

“Mae cyfiawnder yn nes heddiw, nid yn unig oherwydd y dyfarniad hwn, ond oherwydd eu gwaith.

“Mae Michelle a minnau yn anfon ein gweddïau at deulu George Floyd, yn y gobaith y gallan nhw ddod o hyd i heddwch.

“Ac rydym ni’n sefyll ochr yn ochr â phawb sydd wedi ymroi i sicrhau fod pob Americanwr yn cael cyfiawnder llawn, rhywbeth a gafodd ei wadu i George a nifer fawr o bobol eraill.”

“Mae bywydau Du o bwys, o hyd ac am byth.”

Ar Twitter fe wnaeth Hillary Clinton, cyn-ymgeisydd Arlywyddol y Democratiaid, ddweud bod teulu a chymuned George Floyd yn “haeddu i’w lofrudd fod yn atebol”.

“Heddiw, cawsom ni’r atebolrwydd hwnnw,” meddai.

“Mae bywydau du o bwys, o hyd ac am byth.”

Ymateb Mark Drakeford

Yn y cyfamser, mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, wedi ymateb i’r newyddion hefyd.

“Rydyn ni yma yng Nghymru wedi teimlo dros deulu George Floyd a phobol ddu dros y flwyddyn ddiwethaf,” meddai.

“Gydag atebolrwydd, rhaid y daw heddwch ac ymdrech o’r newydd gennym ni nawr i ddod â hiliaeth sefydliadol i ben.”

Llun o George Floyd yn Minneapolis

Y plismon Derek Chauvin wedi’i gael yn euog o lofruddio George Floyd

Rheithgor wedi cael y plismon yn euog o dri chyhuddiad