Mae’r plismon Derek Chauvin wedi’i gael yn euog o lofruddiaeth a dynladdiad George Floyd ym Minneapolis yn nhalaith Minnesota.

Roedd e’n wynebu tri chyhuddiad mewn perthynas â marwolaeth y dyn croenddu, sydd wedi arwain at brotestiadau gwrth-hiliaeth o amgylch y byd.

Cafwyd e’n euog o lofruddiaeth o’r ail radd, llofruddiaeth o’r trydydd gradd a dynladdiad o’r ail radd ac fe gafodd ei dywys o’r llys mewn cyffion.

Mae e wedi’i gadw yn y ddalfa hyd nes y bydd e’n cael ei ddedfrydu, ac mae’n wynebu hyd at 40 mlynedd o garchar.

Daeth y rheithgor i benderfyniad ar ôl pwyso a mesur am oddeutu deg awr dros gyfnod o ddeuddydd.

Fydd eu henwau na’u manylion personol ddim yn cael eu cyhoeddi hyd nes bod y barnwr yn penderfynu ei bod yn ddiogel i wneud hynny.

Fe fydd tri phlismon arall sydd wedi’u cyhuddo am eu rhan ym marwolaeth George Floyd yn mynd gerbron llys ym mis Awst.

Bu farw George Floyd, 46, ar Fai 25 y llynedd ar ôl i Derek Chauvin bwyso ar ei wddf â’i ben-glin am naw munud a 29 eiliad.

Roedd wedi’i arestio ar amheuaeth o ddefnyddio papur 20 doler ffug i dalu am becyn o sigarets mewn marchnad gornel.

Fe aeth i banig cyn cael ei atal gan Derek Chauvin wrth iddo geisio ei arestio a’i roi yng nghar yr heddlu, ac fe gafodd ei roi ar lawr i’w dawelu ond fe aeth yn anymwybodol cyn marw o ganlyniad i’r pwysau ar ei wddf.

Wrth ymateb i’r rheithfarn, dywedodd Keith Ellison, Twrnai Cyffredinol Minnesota, fod “atebolrwydd” wedi’i gael, ond nid “cyfiawnder”.

Ymateb

Mae’r Arlywydd Joe Biden a’i wraig Jill, ynghyd â’r Dirprwy Arlywydd Kamala Harris, wedi siarad â theulu George Floyd, yn ôl fideo gan Ben Crump, cyfreithiwr y teulu.

“Does dim byd yn mynd i wneud y cyfan yn well, ond o leiaf nawr mae yna rywfaint o gyfiawnder,” meddai’r arlywydd.

“Rydyn ni i gyd yn teimlo cymaint o ryddhad.”

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai’r achos yn arwain at fomentwm i’r ymdrechion i ddiwygio’r heddlu.

Mae lle i gredu bod yr arlywydd a’i ddirprwy wedi gwylio’r rheithfarn o ystafell fwyta breifat ger yr Oval Office.