Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dod i’r casgliad bod Cyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf wedi methu â chydymffurfio â rhai o safonau’r Gymraeg wrth gynnig cau Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Sion Norton.
Cafodd ymchwiliad ei lansio yn dilyn cwyn gan aelod o’r grŵp Pontio’r Gymraeg yn Lleol yn honni nad oedd y cyngor wedi ymgynghori yn briodol cyn cynnig cau’r ysgol ym Mhontypridd.
Mae’r cynnig i’w chau yn rhan o gynlluniau Ysgolion 21ain Ganrif i ad-drefnu ysgolion yn nhref Pontypridd, a dywedodd y cwyn nad oedd y cyngor wedi ystyried effaith newid eu polisi ar y Gymraeg.
Bydd y cynlluniau, sydd wedi’u gohirio tan 2024, yn gweld Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Sion Norton ac Ysgol Gynradd Heol y Celyn yn cau, ac ysgol gynradd newydd fwy yn cael ei hagor ar safle hen Ysgol Gynradd Heol y Celyn yn Rhydyfelin.
Fis Gorffennaf y llynedd, daeth adolygiad barnwrol i’r dyfarniad fod y Cyngor wedi methu ag ystyried effaith y newidiadau ar y Gymraeg, ond fe wnaeth y Cyngor apelio’n llwyddiannus yn erbyn y Cyngor.
Torri safonau
Daeth Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, i’r casgliad fod y Cyngor wedi torri safonau, ac “nad oedd y ddogfen ymgynghori yn trafod yn ddigonol, cynnig opsiynau, yn ystyried nac yn darparu gwybodaeth ynghylch effaith posib yr holl gynigion ar y Gymraeg i alluogi’r cyhoedd i ymateb yn wybodus i’r ymgynghoriad.”
Mae’r adroddiad hefyd yn nodi nad oedd y Cyngor wedi ystyried a fyddai’r Gymraeg “yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg o newid y polisi, ac na chafodd hynny chwaith ei ystyried na’i gynnwys yn ddigonol yn y dogfennau ymgynghori”.
“Ystyried yn llawn effaith tynnu addysg Gymraeg o gymunedau lleol”
“Er bod y Cyngor wedi ei wneud yn glir na fyddan nhw yn cynnal ymgynghoriad arall, ein gobaith yw y byddent yn defnyddio’r cyfnod yma o ohirio i drafod gyda rhieni a thrigolion ac ystyried yn llawn effaith tynnu addysg Gymraeg o gymunedau lleol ac adeiladu ysgol newydd y tu allan i’r ardal ddalgylch,” meddai Lowri Chinnock-Davies, sy’n aelod o grŵp Pontio’r Gymraeg yn Lleol.
“Rydym yn ystyried fod hyn yn allweddol bwysig yn enwedig pan fo safleoedd lleol ar gael i’w hystyried ar gyfer datblygiad ac ein bod wedi awgrymu’r rheiny i’r Cyngor drwy gydol y broses ymgynghori ond yn teimlo na roddwyd unrhyw ystyriaeth iddynt.
“Yn sgil y cyhoeddiad y bydd y Cyngor yn gohirio’r cynlluniau i ad-drefnu ysgolion ym Mhontypridd tan 2024, bydd ymgyrchwyr Pontio’r Gymraeg yn Lleol yn parhau i alw am gydweithrediad y Cyngor i sicrhau y bydd y Gymraeg yn parhau i ffynnu yng nghymunedau Ynysybwl, Glyncoch, Coed y Cwm, Trallwn a Chilfynydd o’r blynyddoedd cynradd i oedran cynradd ac uwchradd.”
Ymateb Cyngor Rhondda Cynon Taf
“Mae’r Cyngor wedi cydnabod sylwadau ac argymhellion Comisiynydd yr Iaith. Mae’r Cyngor wedi gweithredu ar y materion a oedd yn ofynnol o dan Safonnau’r Iaith Gymraeg,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf.
“Wrth drafod cynigion i fuddsoddi £37 miliwn er mwyn trawsnewid addysg Gymraeg a Saesneg yng nghanol Pontypridd, fe wnaeth y Cyngor gydymffurfio’n llawn â gofynion cod Ail-drefnu Ysgolion Llywodraeth Cymru.
“Roedd hyn yn cynnwys ateb, a mynd thu hwnt i, ofynion trafod statudol y Cod, er mwyn cynnig ystod llawn o gyfleoedd i breswylwyr, rhieni, a disgyblion ystyried a rhoi sylwadau ar y cynlluniau hyn, a rhoi eu barn ar y penderfyniad allweddol yma.
“Cafodd penderfyniad y Cyngor ei amddiffyn gan y Llys Apêl yn dilyn her gyfreithiol.”