Mae technegydd mewn coleg yn wynebu cael ei gosbi ar ôl defnyddio cyfrifiadur mewn ystafell ddosbarth i fynd ar wefannau gwasanaethau partneru (escort agencies).
Daeth panel i’r casgliad bod chwiliadau Stephen Davies ar-lein gyfystyr ag “ymddygiad proffesiynol annerbyniol”.
Dywedwyd iddo fynd ar wefannau gan gynnwys “AdultZone” ac “XEscorts”, ac edrych ar ddelweddau o fenywod noeth, tra bod disgyblion yn cael eu dysgu mewn lleoliad arall yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.
Clywodd y gwrandawiad fod Stephen Davies wedi chwilio am “Cardiff escorts” ar Google, a’i fod wedi mynd ar wefan yn rhestru escorts ar draws y byd rhwng 9yb a 10yb ar Fai 14, 2019.
‘Anaddas i’r sefyllfa benodol’
Heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 20), dywedodd Cadi Dewi, y swyddog cyflwyno, wrth wrandawiad y Cyngor Gweithlu Addysg fod honiad Stephen Davies y gallai disgyblion fod wedi dwyn cyfrinair ei gyfrifiadur er mwyn chwarae jôc “yn anghredadwy”.
“Nid oedd yr un achlysur lle y gwnaeth adrodd am ymddygiad amheus, nac yr un achlysur lle’r oedd disgybl yn sefyll mor agos ato fel y gallai ddilyn ei deipio a chofio ei gyfrinair, ac ni roddodd enwau er mwyn awgrymu pwy allai fod wedi gwneud hyn,” meddai.
“Does dim tystiolaeth i gefnogi hyn.
“Yn syml, mae e’n ceisio esbonio ei ymddygiad annerbyniol drwy awgrymu’n anghywir fod rhywun arall wedi defnyddio ei fanylion i fewngofnodi.”
Dywedodd Cadi Dewi fod y lluniau o fenywod noeth, a manylion ei fod yn talu am wasanaethau rhywiol, yn “amlwg yn anaddas i’r sefyllfa benodol” lle y gallai pobol ifanc fynd a dod i’r ystafell ar unrhyw adeg.
Ymddygiad proffesiynol annerbyniol
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Addasrwydd i Weithio wrth y gwrandawiad ei fod yn fodlon fod Stephen Davies wedi defnyddio cyfrifiadur y coleg er mwyn mynd ar wefannau anaddas mewn ystafell ddosbarth yn ystod oriau gwaith.
Roedd Mark Brown, y Cadeirydd, yn fodlon fod hyn gyfystyr ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol.
“Ystyriodd y pwyllgor fod amgyffred moesegol Mr Davies yn absennol, ac nad oedd ei ymddygiad yn cyrraedd y safon uchaf sy’n ddisgwyliedig o weithwyr addysgol,” meddai.
“Methu esbonio pam fod hyn wedi digwydd”
Ychwanegodd y cynghorydd cyfreithiol Eve Piffaretti fod Stephen Davies, oedd wedi dewis peidio mynd i’r gwrandawiad na rhoi tystiolaeth, wedi dweud wrth wrandawiad disgyblu yn y coleg “na allai esbonio pam fod hyn wedi digwydd, ei bod yn wirioneddol ddrwg ganddo fod pethau wedi dod i hyn, a bod ganddo gywilydd yn sgil y mater”.
“Roedd e’n credu y byddai’r gwasanaethau TG yn atal deunydd fel hyn. Mae’n mynd yn ei flaen i ddweud ei fod yn caru ei swydd, a’i fod wedi bod yn gyflogedig ers pymtheg mlynedd heb ddim problemau.”
Mae’r panel camymddwyn wedi gadael y gwrandawiad er mwyn ystyried ei gosb.