Mae’r rheithgor mewn achos llys yn ymwneud â thrychineb Hillsborough wedi cael eu hannog i “ganolbwyntio ar y dystiolaeth” ac i beidio â meddwl am ymdrechion posib i gelu’r gwirionedd.

Bu farw 96 o gefnogwyr o ganlyniad i’r trychineb yng nghae pêl-droed Sheffield Wednesday ar ddiwrnod gêm gyn-derfynol Cwpan FA Lloegr rhwng Lerpwl a Nottingham Forest ar Ebrill 15, 1989.

Mae dau gyn-blismon a chyn-gyfreithiwr wedi’u cyhuddo o “leihau” eu rhan yn y trychineb.

Y tri sydd wedi’u cyhuddo yw Donald Denton (83) ac Alan Foster (74), dau gyn-blismon gyda Heddlu De Swydd Efrog, a’r cyn-gyfreithiwr Peter Metcalf (71).

Maen nhw wedi’u hamau o wyrdroi cwrs cyfiawnder yn dilyn y trychineb drwy addasu datganiadau tystion wedi’r digwyddiad.

Wrth i’r gwrandawiad gael ei gynnal yn Salford, roedd teuluoedd rhai o’r bobol fu farw yn dilyn y gwrandawiad trwy gyswllt fideo yn Lerpwl.

Yr erlyniad

Dywedodd cyfreithiwr ar ran yr erlyniad fod “enw Hillsborough yn adnabyddus drwy’r wlad fel lleoliad trychineb ofnadwy”, ond hefyd am “gelu’r gwirionedd ac ymdrechion i guddio’r ffeithiau go iawn”.

Dywedodd y barnwr y dylai’r rheithgor “anghofio popeth” y gallen nhw fod wedi’i glywed o’r blaen “a chanolbwyntio ar y dystiolaeth y byddwch yn ei chlywed yn y llys yma”.

Dywedodd yr erlynydd fod y tri diffynnydd wedi ceisio lleihau eu rhan yn y trychineb yn dilyn y digwyddiad, “drwy addasu cofnodion plismyn oedd yn bresennol ar y diwrnod”.

Dywedodd eu bod nhw’n “ymwybodol y byddai’r cofnodion hynny’n cael eu hanfon at nifer o ymchwiliadau”.

Ymchwiliadau

Clywodd y rheithgor fod yr heddlu, ar adeg y trychineb, wedi bod yn casglu cwynion gan drigolion lleol, landlordiaid tafarnau a pherchnogion siopau am gemau pêl-droed yn Hillsborough, ac yn enwedig gemau’n ymwneud â chefnogwyr Lerpwl.

Roedd Peter Metcalf yn gyfreithiwr gyda chwmni Hammond Suddards, oedd yn gweithredu ar ran cwmni yswiriant Municipal Mutual, y rhai oedd yn darparu yswiriant i Heddlu De Swydd Efrog ar ôl y trychineb.

Fe fu’r cwmi’n ymwneud â hawliadau am iawndal “sylweddol” wedi’r trychineb.

Heddlu West Midlands oedd yn gyfrifol am ymchwilio i’r trychineb ac ymateb yr heddlu i’r digwyddiadau, ac fe wnaethon nhw holi am gofnodion ysgrifenedig gan blismyn oedd yn y stadiwm ar y pryd.

Cyn i’r cofnodion cael eu cyflwyno, mae Metcalf wedi’i gyhuddo o roi cyngor ynghylch golygu’r dogfennau, fe wnaeth Denton arwain ymchwiliad i gasglu ac adolygu datganiadau a Foster oedd y “dyn gweithredol”.

Yn ôl yr erlynydd, nod yr addasiadau a gafodd eu gwneud gan y tri oedd “celu methiannau Heddlu De Swydd Efrog wrth gynllunio a gweithredu i blismona’r gêm bêl-droed”.

Mae Donald Denton o Sheffield, Alan Foster o Harrogate a Peter Metcalf o Ikley yn gwadu dau gyhuddiad yr un o weithredu gyda’r bwriad o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae disgwyl i’r achos llys bara hyd at 16 wythnos.