Mae Coleg yr Iesu, Rhydychen wedi datblygu Bwrsariaeth Michael Sheen ar y cyd â’r actor o Bort Talbot er mwyn cynnig cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr Cymreig o gefndiroedd difreintiedig.
Bydd posib gwneud ceisiadau ar gyfer y fwrsariaeth, sy’n cael ei chefnogi gan yr actor ei hun, o dymor yr hydref 2021 ymlaen.
Dywed Michael Sheen na ddylai’r “lle rydych chi’n dod ohono, nac amgylchiadau ariannol, fod yn rhwystr rhag caniatáu i bobol dalentog dderbyn cefnogaeth ac i allu datblygu.”
“Perthynas hir a chynhyrchiol”
“Mae gan Goleg yr Iesu, Rhydychen berthynas hir a chynhyrchiol gyda Chymru ers iddo gael ei sefydlu ym 1571,” meddai Michael Sheen.
“Mae’n rhoi pleser i mi allu defnyddio’r adnoddau sydd gennyf i i helpu myfyrwyr ifanc Cymreig llawn potensial i gael cyfleoedd i ddysgu yno, cyfleoedd y maen nhw’n eu haeddu lawn gymaint â phawb arall.
“Dw i’n gobeithio y bydd y bwrsariaethau yma yn ei gwneud hi’n bosib i fyfyrwyr Cymreig fanteisio ar y posibiliadau addysg yng Ngholeg yr Iesu, yn ogystal ag annog pobol i sylwi beth sy’n bosib i bobol ifanc Cymru yn gyffredinol.”
Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu ar sail incwm eu haelwyd yn unig.
Creu y profiad yn un “tecach”
Mae Coleg yr Iesu, a Phrifysgol Rhydychen gyfan, yn dweud eu bod nhw eisiau helpu disgyblion yn ysgolion Cymru i oresgyn annhegwch economaidd sy’n eu hwynebu.
“Mae ein rhaglenni mynediad yn gwneud llawer i annog a chaniatáu i bobol ifanc academaidd o Gymru ddod i’r brifysgol, ond gall myfyrwyr difreintiedig wynebu anghydraddoldeb economaidd sy’n eu rhwystro rhag gallu manteisio’n llawn ar yr addysg sydd gan Rydychen i’w gynnig,” meddai’r Athro Alexandra Lumbers, cyfarwyddwr academaidd Coleg yr Iesu.
“Bydd Bwrsariaeth Michael Sheen yn cynnig cyfleoedd anferth i gefnogi myfyrwyr Cymreig yng Ngholeg yr Iesu, gan wneud eu profiad yn un tecach, a’u cysuro nhw fod Rhydychen i bawb, waeth beth yw eu cefndir.”
‘Cysylltiad hanesyddol cryf’
“Rydym ni’n falch o’n cysylltiad hanesyddol cryf gyda phobol Cymru, a’r cynnydd enfawr sydd wedi’i wneud yng Ngholeg yr Iesu, a’r brifysgol yn ehangach, i annog a chefnogi myfyrwyr o Gymru i geisio am le yn Rhydychen,” meddai’r Athro Syr Nigel Shadbolt, pennaeth Coleg yr Iesu.
“Bydd Bwrsariaeth Michael Sheen yn gyrru’r gwaith yma yn ei flaen, ac mae’n dangos ymroddiad parhaus i gynnig mynediad a thegwch i bawb.
“Rydym ni’n hynod ddiolchgar i Michael am ei gefnogaeth hael, a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau, a dyfodol, rhai o’n myfyrwyr Cymreig mwy difreintiedig.”