Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol yn chwilio am bobol i weithio fel tiwtoriaid Cymraeg – a hynny ym mhob cwr o Gymru.

Daw hyn dilyn blwyddyn brysur o wersi ar-lein lle mae mwy a mwy o bobol wedi penderfynu dysgu Cymraeg.

Gobaith y Ganolfan yw casglu cronfa o enwau pobol a fyddai â diddordeb gweithio fel tiwtor, gyda’r oriau gwaith yn gallu amrywio o ddwy awr i dros 20 awr yr wythnos.

Mae’r dysgwyr yn dysgu ar bum lefel wahanol – o gyrsiau Mynediad ar gyfer dechreuwyr i gyrsiau Uwch a Hyfedredd ar gyfer y rheiny sy’n siaradwyr profiadol.

Caiff dosbarthiadau eu cynnal wyneb yn wyneb fel arfer, ond o ganlyniad i bandemig y coronafeirws a’r cyfyngiadau sydd wedi dod yn ei sgil, mae’r ddarpariaeth i gyd ar-lein ar hyn o bryd, gyda chyrsiau yn cael eu cynnal mewn dosbarthiadau rhithiol.

“Rydym ni yn chwilio am griw newydd, brwdfrydig i ymuno gyda’r tiwtoriaid gwych sydd eisoes yn gweithio gyda ni,” meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol.

“Mae profiad dysgu blaenorol neu wybodaeth am ddysgu iaith yn ddelfrydol, ond brwdfrydedd ac ymroddiad at y Gymraeg yw’r nodweddion sy’n hollbwysig.

“Mae galw parhaus am diwtoriaid i ddysgu’r miloedd o oedolion sy’n cofrestru ar gyrsiau gyda ni bob blwyddyn.”

“Cefnogi dysgwyr a chroesawu siaradwyr newydd”

“Yn ogystal â dysgu’r iaith, mae gan diwtoriaid rôl hollbwysig i’w chwarae i gefnogi dysgwyr a chroesawu siaradwyr newydd, gan gyflwyno cyfleoedd i ddysgwyr fwynhau defnyddio’r iaith yn eu bywydau o ddydd i ddydd,” meddai wedyn.

“Rydyn ni’n ymfalchïo’n fawr yn ein tiwtoriaid ni sy’n rhan gwbl greiddiol o genhadaeth y Ganolfan, i ddenu a chefnogi siaradwyr newydd y Gymraeg.

“Mae brwdfrydedd ac egni’r tiwtoriaid yn gwneud y profiad yn un cofiadwy a chyffrous i’r dysgwr.

“Rydyn ni’n annog unrhyw un sydd â diddordeb i ymuno â’r sector gyfeillgar a chefnogol yma, i gofrestru eu manylion.”