Mae Adam Price wedi amlinellu sut y byddai miloedd o aelwydydd Cymru yn gweld toriad yn eu treth gyngor o dan gynlluniau’r blaid i ddiwygio’r system “annheg a hen ffasiwn” gyfredol pe baen nhw mewn grym ar ôl Mai 6.
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi sylw at y ffaith fod gwerth eiddo mewn gwahanol rannau o’r wlad wedi newid dros y ddeunaw mlynedd ers yr ailbrisio diwethaf yn 2003.
Wrth nodi enghraifft, dywedodd Adam Price fod gwerth eiddo ym Mlaenau Gwent wedi cynyddu fwy na dwywaith yn fwy nag yn Wrecsam.
Dywed y byddai tua 20% o aelwydydd yn y rhan isaf o bump o ran dosbarthiad incwm yn gweld eu bil treth gyngor yn gostwng oddeutu £200.
“Mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol yn disgrifio model treth gyngor cyfredol Cymru fel un ‘wedi dyddio’,” meddai Adam Price.
“Nid yw’n syndod ond mae’n gwbl annerbyniol bod teuluoedd Cymru wedi cael eu taro gan gyfanswm o £13 miliwn o ôl-ddyledion treth gyngor yn ystod y pandemig.
“Dyna pam fyddai llywodraeth Plaid Cymru yn gweithredu ar unwaith i ddiwygio’r system hynod annheg hon a helpu cartrefi i wneud i’w cyllideb wythnosol fynd ymhellach.
“Mae gwerth eiddo mewn gwahanol rannau o Gymru wedi amrywio’n sylweddol dros y 18 mlynedd ers yr ailbrisio diwethaf yn 2003. Er enghraifft, mae wedi cynyddu ddwywaith cymaint yn Blaenau Gwent nag yn Wrecsam.
“Fel y mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid hefyd yn nodi, byddai gwneud treth y cyngor yn gymesur â’r gwerthoedd cyfoes yn arwain at filiau cyfartalog yn gostwng mwy na £160 ym Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot a Blaenau Gwent.
“Bydd y polisi blaengar hwn yn rhan o raglen lywodraethol ehangach Plaid Cymru sydd â thegwch i deuluoedd yn ganolog iddo.”