Mae’r drafodaeth gyhoeddus ynghylch annibyniaeth i Gymru yn “arwydd o aeddfedrwydd” gwleidyddol, yn ôl Aelod Llafur o’r Senedd.
Daw sylwadau John Griffiths, AoS Dwyrain Casnewydd, yn ystod cyfweliad â gwefan LabourList ar drothwy etholiad mis Mai.
Mae wedi cynrychioli ei sedd yn ddi-dor ers 1999, pan gafodd etholiad cyntaf y Senedd ei gynnal, ac fe dywedodd wrth y wefan ei fod yn hapus bod annibyniaeth bellach yn destun trafodaeth gyhoeddus.
“Dw i’n credu bod cynnal y ddadl, a’r drafodaeth, am annibyniaeth yn beth iachus,” meddai.
“Mae’r term indy-curious yn cael ei ddefnyddio, a dyw hynny ddim yn beth gwael.
“Mae chwilfrydedd, yn gyffredinol, yn beth da.
“A dylai pobol gymryd diddordeb, a dylen nhw fod eisiau bod yn wybodus am y mater.
“Dw i’n credu ei fod yn beth da ein bod yn cynnal y ddadl yma, ac mae’n arwydd o aeddfedrwydd gwleidyddol pellach, dw i’n credu.”
Llafur ac annibyniaeth
Polisi Llafur Cymru yw fod Cymru yn elwa o fod yn aelod o’r Deyrnas Unedig, a bod angen diwygio’r undeb – nid ei chwalu.
Ond mae arwyddion cynyddol bod yna newid agwedd ar droed oddi mewn i Lafur Cymru.
Mae tri o ymgeiswyr y blaid yn etholiadau’r Senedd eleni yn agored o blaid annibyniaeth i Gymru, ac mae lle i gredu bod y rhan fwyaf o aelodau’r blaid hefyd o’r un farn.
Fe wnaeth arolwg barn YouGov ym mis Medi awgrymu bod y rhan fwyaf o’r rheiny a bleidleisiodd o blaid Llafur yn etholiad cyffredinol 2019 yn pleidleisio o blaid annibyniaeth (51% o blaid, 49% yn erbyn).
Ymgeiswyr Dwyrain Casnewydd
- Freedom Alliance: Sonya Cary
- Llafur: John Griffiths
- Democratiaid Rhyddfrydol: Mike Hamilton
- Ceidwadwyr: Gareth Hughes
- Plaid Cymru: Daniel Llewelyn
- Reform UK: David Rowlands
- Plaid Diddymu’r Cynulliad: Robert Steed
- UKIP: Benjamin Walker