Mae Cwpan yr Enfys, y gystadleuaeth rygbi oedd i fod i weld 12 tîm y PRO14 yn herio timau o Dde Affrica, wedi cael ei hollti’n ddwy gystadleuaeth ar wahân.
Daw hyn ar ôl i’r timau o Dde Affrica – y Bulls, y Lions, y Sharks a’r Stormers – gael eu hatal rhag teithio oherwydd pryderon am Covid-19.
Roedd disgwyl i’r pedwar tîm ymuno’n barhaol â Chwpan yr Enfys o’r tymor nesaf ar ôl treialu’r fformat eleni.
Ond bellach, fe fydd un gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Ewrop a’r llall yn Ne Affrica.
Daw’r cyhoeddiad ar drothwy taith y Llewod i Dde Affrica yn yr haf, ac roedd y gystadleuaeth hon yn cael ei marchnata fel cyfle i weld chwaraewyr o’r gwledydd hynny’n herio’i gilydd ymlaen llaw.
Roedd disgwyl i’r gystadleuaeth ddechrau ar Ebrill 23, gyda blociau o gemau darbi i ddechrau a bydd y tair rownd gyntaf yn parhau yn ôl y disgwyl beth bynnag.
Ond fydd y rowndiau olynol bellach ddim yn cael eu cynnal yn ôl y drefn wreiddiol.