Mae cefnogwyr wedi bod yn ymateb i’r newyddion fod pob un o’r chwe thîm o’r Uwch Gynghrair oedd wedi ymrwymo i sefydlu’r Uwch Gynghrair Ewropeaidd, neu’r ‘European Super League’ bellach wedi tynnu’n ôl o’r gystadleuaeth.

Manchester City oedd y clwb cyntaf i dynnu’n ôl ar ôl i Chelsea nodi eu bwriad i wneud hynny drwy baratoi dogfennau.

Mae’r pedwar tîm arall – Arsenal, Lerpwl, Manchester United a Tottenham – i gyd bellach wedi dilyn eu hesiampl.

Yn yr Eidal hefyd, mae Inter Milan ac AC Milan wedi tynnu’n ôl gan nad ydyn nhw bellach yn dymuno bod yn rhan o’r prosiect, tra bod Atletico Madrid wedi gadael yn Sbaen.

Cadarnhaodd Manchester City bellach hefyd eu bod wedi “deddfu’n ffurfiol i dynnu’n ôl” o’r Gynghrair.

Dywedodd Lerpwl fod eu rhan nhw yn y gynghrair arfaethedig hefyd “wedi dod i ben”.

Dywedodd Manchester United eu bod nhw wedi “gwrando’n astud ar ymateb ein cefnogwyr, Llywodraeth y Deyrnas Unedig a chyfrandalwyr allweddol eraill” wrth wneud eu penderfyniad i beidio â chymryd rhan.

Ymddiheurodd Arsenal mewn llythyr agored i’w cefnogwyr, gan ddweud eu bod nhw wedi “gwneud camgymeriad”, gan ychwanegu eu bod yn tynnu’n ôl ar ôl gwrando arnynt a’r “gymuned bêl-droed ehangach”.

Dywedodd Daniel Levy, cadeirydd Tottenham, fod y clwb wedi gwrando ar y “pryder a’r gofid” a gafodd ei achosi gan y cynnig.

Cadarnhaodd Chelsea eu bod wedi “dechrau’r trefniadau ffurfiol ar gyfer tynnu’n ôl o’r grŵp”.

“Hanfod pêl-droed a phob math o chwaraeon yw bod modd i chi ennill a cholli”

Dywed Tim Hartley, cefnogwr Caerdydd wrth golwg360, ei fod yn credu bod ymateb cefnogwyr pêl-droed wedi cael dylanwad ar benderfyniad y clybiau i dynnu yn ôl.

“Byddwn i’n hoffi meddwl bod yr awdurdodau pêl-droed o’r diwedd yn gwrando ar lais y cefnogwyr,” meddai.

“Ni yw cynheiliaid y gêm rydan ni gyd yn ei charu ac mae’n drist meddwl bod yn rhaid i ni ddisgwyl i rywun drio torri’r gêm cyn bod pawb yn cytuno’i bod hi mor werthfawr.

“Hanfod pêl-droed a phob math o chwaraeon yw bod modd i chi ennill a cholli, ac roedd y league fel yr oedden nhw wedi’i disgrifio hi yn caniatáu i lond dwrn o glybiau cyfoethog, hunan-apwyntiedig gau’r drws ar dimau eraill.

“Wrth edrych ymlaen, does dim rheswm pam na ddylai’r Uwch Gynghrair, y Gymdeithas Bêl-droed a UEFA gosbi’r clybiau hynny.”

“Dw i’n teimlo mod i wedi cael fy mradychu fel cefnogwr”

Er bod y clybiau wedi tynnu’n ôl, mae’r ffaith fod y cynlluniau wedi cael eu hystyried wedi pechu rhai cefnogwyr fu’n siarad â golwg360.

“Dw i wedi rhoi fyny ar United yn gyfan gwbl tra bod y Glazers yn dal i fod yna… mae’r ffaith ei bod nhw wedi trio gwneud hyn yn ddigon i mi,” meddai Tomos Owen, sy’n gefnogwr Manchester United.

“Mae hwn wedi agor llygadau pobol i lwyth o bethau, dw i wedi colli ‘mynadd efo pêl-droed yn llwyr bellach.

“Dw i’n gweld beth maen nhw wedi trio ei wneud mor ddigwilydd, ers pryd mae Spurs yn fwy o glwb nag Everton, neu West Ham?

“Dydi o ddim i wneud â’r tîm mwyaf, mae o’n ymwneud â’r tîm cyfoethocaf, a dyna ydi un o’r pethau mwyaf siomedig.

“Mae o’n shambls llwyr, a dw i’n teimlo ’mod i wedi cael fy mradychu fel cefnogwr.”

“Methu edrych ar y clwb yr un fath”

Dywedodd Sion Roberts, cefnogwr Lerpwl, nad yw’n gallu “edrych ar y clwb yr un fath” er eu bod wedi tynnu yn ôl.

“Mae o’n ffiaidd be’ ddaru nhw drio wneud, a dw i’n sicr y byddan nhw wedi cario ymlaen efo’r cynlluniau tasa’r ymateb heb fod mor ffyrnig.

“Dw i’n hapus iawn bo nhw wedi callio a phenderfynu peidio ei wneud o, ond mae o’n gadael blas hyll yn dy geg di.

“Fydda i methu edrych ar y clwb yr un fath ar ôl hyn, mae o jyst yn dangos lle mae’r gêm wedi cyrraedd.

“Mae hi wedi mynd tu hwnt erbyn hyn… arian ydi bob dim a tydi’r clybiau yma’n poeni dim am y cefnogwyr ddim mwy.”

“Annheg i gosbi’r chwaraewyr”

Ond mae Llŷr Jones, cefnogwr Manchester City, yn credu mai beio perchnogion y clybiau ddylai pobol wneud yn hytrach na’r clybiau eu hunain.

“Roeddwn i wrth fy modd pan wnes i glywed y newyddion bod o ddim yn mynd i ddigwydd,” meddai.

“Ond doedd o ddim byd i wneud efo’r clwb rili, jyst y bobol sydd biau’r clwb.

“Mae o’n anodd mynd yn flin efo’r clybiau oherwydd, yn y bôn, penderfyniadau llond llaw o bobol oedd hyn.”

A dyw e ddim yn credu y dylai’r clybiau gael eu cosbi chwaith.

“Dw i’n meddwl y basa fo’n annheg ofnadwy ar y chwaraewyr, yr hyfforddwyr a’r bobol sy’n gysylltiedig â’r clwb oherwydd dydi o ddim byd i wneud efo nhw,” meddai.

“Does dim bai ar y bobol sydd wedi gweithio’n galed drwy’r tymor i gael i lle maen nhw rŵan.

“Jyst y diawliaid yma sydd ar y top a ddim efo syniad be’ maen nhw’n wneud sydd ar fai, pam cosbi pawb arall oherwydd nhw?”