Mae clwb rygbi yng Nghaerdydd sy’n arloesi wrth gwtogi eu defnydd o drydan er mwyn bod yn ecogyfeillgar, wedi cael eu dewis gan Y Loteri Genedlaethol i serennu mewn fideo  arbennig.

Cafodd Clwb Rygbi Pentyrch, dan arweiniad Gareth Williams, eu dewis i ffilmio fideo manwl ynghylch eu defnydd o baneli solar.

Yn Ysgrifennydd Cynorthwyol, Cyfarwyddwr, a Chyn-hyfforddwr y tîm, mae Gareth Williams wedi’i ddewis i fod mewn fideo gan y Loteri sy’n adrodd straeon elusennau amgylcheddol.

Dangosa ymchwil newydd fod saith ymhob deg person yn dweud nad ydyn nhw’n gwneud digon i achub y blaned, ac mae Gareth Williams yn annog clybiau rygbi eraill i ddefnyddio paneli solar.

Defnyddio mwy o drydan yn ystod y pandemig

Datgela ymchwil y Loteri Genedlaethol fod 73% ohonom wedi defnyddio mwy o drydan yn ystod y pandemig, tra bo traen wedi cyfaddef eu bod wedi rhoi’r system wresogi ymlaen mwy nag erioed o’r blaen.

Ond mae bron i hanner yn dal i gredu y bydd y byd yn lle gwyrddach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gyda llawer yn cyfaddef y byddant yn newid eu harferion er gwell wedi’r cyfnod clo.

Mae’r Loteri Genedlaethol wedi buddsoddi mwy na £2.2 biliwn mewn prosiectau a mentrau gwyrdd ar draws y sectorau treftadaeth, celfyddydol, cymunedol a chwaraeon ers 2010.

Roedd fideo Pentyrch yn un o ddwy ffilm nodwedd addysgol manwl a thrylwyr i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd achub y blaned, gyda Rosie Ramsey, y gomedïwraig, yn serennu mewn tri gweithdy DIY ychwanegol gydag elusennau eraill sy’n cael eu hariannu gan Y Loteri Genedlaethol.

“Ysbrydoli pobl i fod yn wyrddach”

“Nid oedd cael paneli solar ar y to yn rhywbeth y gallem ei fforddio yn y lle cyntaf. Ond ymgeision ni am arian y Loteri Genedlaethol, cael y golau gwyrdd a’u gosod tua mis yn ôl,” dywedodd Gareth Williams, sy’n 72 oed, ac wedi bod yn gysylltiedig â’r clwb ers dros ddeugain mlynedd.

“Ein cam nesaf o ran cynaliadwyedd yw edrych ar osod pympiau gwresogi, yn hytrach na gosod dau foeler newydd, i gynhyrchu aer cynnes trwy dynnu dŵr i fyny o’r ddaear.

“Mae cynaliadwyedd yn gweithio mewn dwy ffordd. Mae eich ôl troed carbon mewn ffurf bositif a chadarnhaol – ac rydych yn helpu’r clwb yn ariannol ac arbed arian i’r busnes.

“Rydym mor falch i fod yn rhan o’r gyfres fideo hon, gan ysbrydoli pobl i fod yn wyrddach. Fy neges i glybiau rygbi eraill yw i fynd amdani,” pwysleisiodd.

“Gall bod yn ecogyfeillgar arbed miloedd o bunnoedd i glwb pob blwyddyn ac mae’n hawdd iawn i’w wneud. Pwy na fyddai eisiau ei wneud?”

“Dydy llawer o bobl ddim yn sylweddoli’r buddion a ddaw o brynu tocyn y Loteri Genedlaethol. Hyd yn oed os nad ydych yn ennill, fel fy hunan a’m gwraig, dydy pobl ddim yn sylweddoli bob tro eich bod yn cyfrannu tuag at elusen ynghyd ag ennill ychydig o arian,” ychwanegodd Gareth Williams, sy’n byw ym Mhentyrch, tua 200 metr oddi wrth y clwb rygbi.

“Mae’r Loteri Genedlaethol yn rhoi cymaint o filiynau i gynifer o sefydliadau. Nid wyf yn gweld y gallem fod wedi fforddio ein paneli solar, na bod mor gynaliadwy ag yr ydym wedi bod, heb grantiau’r Loteri Genedlaethol.”