Mae Harry Redknapp yn disgwyl i Gareth Bale gael diweddglo disglair i’r tymor pêl-droed.
Ac mae cyn-reolwr Tottenham yn dweud ei fod eisoes wedi gweld gwahaniaeth ym mherfformiad yr ymosodwr ers i Jose Mourinho gael y sac gan Spurs ddechrau’r wythnos.
Mae capten Cymru wedi bod ar fenthyg o Real Madrid y tymor hwn, ac wedi bod ar y cyrion yn aml iawn i Spurs.
Fe gafodd Bale gychwyn gêm i Tottenham am y tro cyntaf ers mis a mwy nos Fercher, yn dilyn ymadawiad Mourinho, a sgorio mewn buddugoliaeth 2-1 dros Southampton.
Ac ar drothwy ffeinal Cwpan Caraboa yn Wembley ddydd Sul rhwng Spurs a Manchester City, mae ei gyn-reolwr yn ystod ei gyfnod cyntaf gyda Tottenham wedi codi cwr y llen ar gymeriad Gareth Bale.
“Os oes modd gwneud i Gareth deimlo ei fod yn bwysig i’r tîm, fe welwn ni’r gorau ohono rhwng rŵan a diwedd y tymor. Fe allai chwarae yn wych am weddill y flwyddyn,” meddai Harry Redknapp.
“Nid Gareth yw’r bachgen mwyaf hyderus, er iddo fod yn un o’r chwaraewyr gorau yn y byd.
“Pan ddaeth yn ôl ac ymuno gyda Tottenham o Real Madrid, roedd angen gwneud iddo deimlo ei fod yn bwysig. Mae wedi bod ar y cyrion, mewn gwirionedd.”
‘Cer i ennill y gêm i ni’
“Pan oeddwn i yn Tottenham,” meddai Harry Redknapp, “mi fyddwn i yn dweud wrth y tîm: ‘rhowch y bêl i Gareth, fe wneith o eu chwalu nhw’. A byddwn yn dweud wrth Gareth: ‘cer i ennill y gêm i ni’.
“Mi fyddai yn ymateb i hynny, rhywun yn dangos ffydd ynddo fo. Am ba bynnag reswm, doedd o ddim yn rhan o gynlluniau Jose.
“Ond yn erbyn Southampton fe gafodd o gychwyn y gêm, ac roedd o’n edrych fel chwaraewr gwahanol. Roedd yn edrych fel y Gareth rydw i’n ei gofio. Roedd o’n wych.”
Byddai cefnogwyr Cymru wrth eu boddau yn gweld Gareth Bale yn cael mwy o gyfleon i ddigsleirio gyda’i glwb, ar drothwy’r Ewros.