Mae UEFA yn rhoi arian yn ôl i gefnogwyr sydd wedi prynu tocynnau i weld gemau rowndiau terfynol Ewro 2020.

Daeth UEFA i’r penderfyniad gan nad yw’n bosib gwybod lle fydd y rhan fwyaf o gemau’r rowndiau terfynol yn cael eu cynnal nes diwedd gemau’r grwpiau, ac wrth ystyried y cyfyngiadau sylweddol sydd ar deithio ar hyn o bryd.

Bydd y cwota ar gyfer y tocynnau ‘Follow My Team‘ ar gyfer gemau’r rowndiau terfynol yn parhau i fod ar gael i ddilynwyr y timau sy’n mynd trwodd.

Os yw’r tîm yn mynd trwodd i’r rowndiau terfynol, a bod cyfyngiadau teithio yn caniatáu i bobol gyrraedd lleoliad y gêm ar fyr rybudd, bydd posib prynu’r tocynnau hyn yn hwyrach ymlaen.

Yn ogystal, mae UEFA yn newid lleoliadau rhai o’r gemau, ac maen nhw wedi cadarnhau y bydd pedair o gemau Ewro 2020 yn cael eu cynnal ym Munich gyda lleiafswm o 14,500 o bobol yn y stadiwm.

Mae’r pwyllgor wedi penderfynu newid y canlynol:

  • Bydd y pedair gêm oedd i fod i gael eu cynnal yn Bilbao yn symud i Seville. Mae’n fwriad llenwi 30% o’r stadiwm gyda gwylwyr ar gyfer tair gêm Grŵp E, ac un gêm Rownd yr 16 olaf, a fydd yn cael eu cynnal yno. Yn sgil penderfyniadau awdurdodau lleol yn Bilbao, mae’n debyg na fyddai’n bosib i ddilynwyr fynychu’r gemau yno.
  • Bydd tair gêm Grŵp E a oedd fod i gael eu cynnal yn Nulyn yn symud i Stadiwm St Petersburg. Bydd tair o gemau Grŵp B, ac un gêm yn y rownd gogynderfynol, yn digwydd yno hefyd.
  • Bydd gêm yn Rownd yr 16 olaf a oedd i fod i ddigwydd yn Nulyn, yn symud i Stadiwm Wembley yn Llundain.

“Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n ddiwyd gyda’r sefydliadau gwadd a’r awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod awyrgylch saff a hwyliog yn y gemau, ac rydw i’n falch ein bod ni’n gallu croesawu gwylwyr i bob gêm er mwyn dathlu pêl-droed cenedlaethol dros y cyfandir,” meddai Llywydd UEFA Aleksander Čeferin.