Nid yw Mick McCarthy, rheolwr Caerdydd, yn rhagweld y bydd Harry Wilson a Sheyi Ojo yn aros gyda’r clwb y tymor nesaf.

Mae’r ddau chwaraewr wedi treulio’r tymor ar fenthyg gyda’r clwb o bencampwyr Uwchgynghrair Lloegr, Lerpwl – lle mae ganddyn nhw gytundebau tan 2023.

Mae Harry Wilson wedi sgorio pedair gôl mewn 36 ymddangosiad i’r Adar Gleision y tymor hwn, tra bod Sheyi Ojo wedi sgorio pum gwaith mewn 41 gêm.

Pan ofynnwyd iddo a fyddai’r ddau yn dychwelyd y tymor nesaf, dywedodd Mick McCarthy:

“Dydw i ddim yn meddwl y bydd hynny’n digwydd.

“Mae Harry wedi bod ar fenthyg gyda thua phedwar clwb ac mae ef eisiau cartref yn rhywle, mae e eisiau chwarae’n barhaol yn rhywle, ac mae hynny’n wir am Sheyi hefyd.

“Bydd y ddau ohonyn nhw yn nhymor olaf eu cytundebau (gyda Lerpwl) y flwyddyn nesaf.

“Bydd yn rhaid i Lerpwl sortio hynny eu hunain – does ganddo ddim byd i wneud gyda ni.

“Fyddwn i’n eu cael nhw’n ôl? Byddwn, wrth gwrs, maen nhw’n chwaraewyr da iawn.

“Ond dydw i ddim yn meddwl y bydd hynny yn digwydd.”