Mae tîm criced Morgannwg mewn sefyllfa gref ar ddiwedd ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Northampton yn Northampton.

Ar ôl cipio wicedi olaf batiad yr ymwelwyr a’u bowlio nhw allan am 407 – er i Forgannwg redeg allan o amser i gipio’r pwynt batio olaf – mae’r tîm cartref yn 251 am saith, ar ei hôl hi o 156 yn y batiad cyntaf.

Ond fe fydd ochenaid o ryddhad hefyd ar ôl i’r Saeson fod mewn trafferthion ar 76 am bump cyn i’r capten Adam Rossington daro’n ôl gyda 76.

Diwedd batiad cyntaf Morgannwg

Ar ôl dechrau’r ail ddiwrnod ar 324 am saith, daeth Morgannwg allan i’r cae yn benderfynol o ymosod o’r belen gyntaf, gan lwyddo i gyrraedd 407 i gyd allan.

Cwympodd yr wythfed wiced – a wiced gynta’r bore – wrth i James Harris gael ei ddal yn gelfydd am 17 gan y wicedwr Adam Rossington, a hwnnw’n sefyll i fyny i’r bowliwr cyflym Ben Sanderson.

Ar ôl gorffen ei gêm gyntaf yn erbyn Sussex heb yr un rhediad yn y naill fatiad na’r llall, daeth rhediad cyntaf James Weighell i’w sir newydd â phwynt bonws i Forgannwg am gyrraedd 350.

Ond cafodd ei ddal gan Rossington yn fuan wedyn oddi ar fowlio Wayne Parnell, a hwnnw’n cipio wiced oddi ar ei ail belen.

Ar ôl colli allan ar y pwynt batio olaf, parhau i ymosod wnaeth Morgannwg, gyda batiad campus y capten Chris Cooke yn dod i ben ar 136 wrth iddo fe gael ei ddal yn y slip gan Ricardo Vasconcelos oddi ar fowlio Nathan Buck.

Roedd Michael Hogan wedi bod yn ymosodol ben draw’r llain hefyd, gan orffen heb fod allan ar 25 oddi ar 14 o belenni, a Morgannwg i gyd allan am 407.

Dwy wiced cyn cinio

Dechrau digon sigledig gafodd Swydd Northampton wrth orfod wynebu tua hanner awr cyn amser cinio.

Nid yn aml mae bowliwr lled gyflym yn agor y bowlio, ond fe dalodd y dacteg ar ei chanfed i Forgannwg, wrth i David Lloyd gipio wiced Ricardo Vasconcelos, gyda’r batiwr yn darganfod dwylo diogel Billy Root yn y slip ar ôl 3.5 o belawdau.

Am yr ail ddiwrnod yn olynol, cwympodd wiced oddi ar belen ola’r bore, pan gafodd Will Thurston ei redeg allan yn gampus gan James Weighell, wrth i’r maeswr ar ochr y goes daro un ffon.

Roedd Swydd Northampton, felly, yn 17 am ddwy erbyn amser cinio.

Adfywiad y Saeson yn nwylo’r capten

Daeth cadarnhad yn ystod amser cinio fod Queensland wedi enwi Marnus Labuschagne, yn chwaraewr y gystadleuaeth ar gyfer y Sheffield Shield, a bydd Morgannwg yn gobeithio y bydd e’n dal ar ei orau wrth lanio yng Nghymru fis nesaf.

Ond am y tro, roedd tynged Morgannwg ar ail ddiwrnod y gêm hon yn nwylo’r bowlwyr ac fe gipiodd dau fowliwr eu wicedi cyntaf dros y sir.

Tarodd James Harris goes Rob Keogh o flaen y wiced – ei wiced gyntaf ers dychwelyd ar fenthyg – cyn i James Weighell waredu Ben Curran, a gafodd ei ddal gan Cooke.

Daeth pumed wiced o fewn dim o dro, wrth i Cooke sicrhau daliad arall i waredu Luke Procter, a’r Saeson erbyn hynny’n 76 am bump.

Fe wnaethon nhw daro’n ôl, serch hynny, wrth i’r capten Adam Rossington ddod i’r llain ac roedd e’n dal yno erbyn amser te, heb fod allan ar 38, a’i dîm yn 130 am bump.

Cyrhaeddodd ei hanner canred oddi ar 72 yn y sesiwn olaf, wrth adeiladu partneriaeth o 126 mewn 33 o belawdau gyda Saif Zaib, a gafodd ei ddal gan James Harris yn y pen draw, oddi ar belen lawn ar ochr y goes gan David Lloyd.

Roedd Rossington yn y pafiliwn o fewn dim o dro hefyd, wrth i Michael Hogan daro’i goes o flaen y wiced am 76, a Swydd Northampton erbyn hynny’n 213 am saith.

Llwyddon nhw i ennill ail bwynt batio cyn diwedd y dydd, gan orffen ar 251 am saith, ar ei hôl hi o hyd o 156 o rediadau.

Ymateb capten Morgannwg

“Dw i’n eithaf hapus gyda lle’r ydyn ni yn y gêm,” meddai Chris Cooke, capten Morgannwg.

“Wnes i gadw at fy nghynllun ar gyfer y gêm, ges i rywfaint o lwc fan hyn a fan draw wrth geisio goroesi wrth adael i arall fatio o ‘nghwmpas i.

“Dw i’n sicr fod gyda ni’r [batwyr] rhif naw, 10 ac 11 yn y wlad.

“Mae [Michael] Hogan jyst yn dod i mewn ar y diwedd ac yn ei tharo hi’n dda iawn, a dyna’r amddiffynfa orau i fi.

“Mae ffin fach ar un ochr a ffin gyflym dros ben felly gall fod yn anodd atal llif y rhediadau weithiau gyda’r ysgubwyr.

“Gall deimlo’n fflat ond gallwch chi glatsio’n eithaf cyflym fel gwelsoch chi yn y fan yna.

“Roedd partneriaethau [Adam] Rossington a [Saif] Zaib ychydig yn rhwystredig ond roedden ni’n gwybod sut fyddai’r llain yn mynd ac roedden ni’n gwybod y byddai partneriaethau.

“Fe wnaethon ni geisio’i chadw hi’n dynn a chipio ambell wiced gyflym, sy’n gallu newid pethau.”

Sgorfwrdd

Chris Cooke

Capten Cooke yn llywio Morgannwg yn Northampton

107 heb fod allan i Chris Cooke wrth i Forgannwg sgorio 324 am saith ar ddiwrnod cynta’r gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Northampton

James Harris yng ngharfan Morgannwg yn Swydd Northampton

Mae’r Cymro ar fenthyg am bythefnos gyda nifer o fowlwyr Morgannwg allan