Mae Rhun ap Iorwerth, ymgeisydd Etholiad Senedd Plaid Cymru ar gyfer Ynys Môn, wedi cyhoeddi y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gofyn am gael cynnal Gemau’r Gymanwlad yng Nghymru, naill ai yn 2030 neu 2034.

Dywed y byddai cynnig o’r fath yn rhoi hwb i economi Cymru a phroffil y genedl ar lwyfan chwaraeon y byd.

Mae e wedi tynnu sylw at brofiad “hynod gadarnhaol” Glasgow o gynnal y Gemau yn 2014 fel esiampl i Gymru, gan ychwanegu bod y digwyddiad wedi cyfrannu hyd at £740m at economi’r Alban.

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, gallai cynnal Gemau’r Gymanwlad ddod â buddion economaidd yn ogystal â buddion iechyd cyhoeddus i Gymru drwy wella cyfleusterau ac ysbrydoli pobol i ymgymryd â chwaraeon newydd.

“Ysbrydoli cenhedlaeth newydd o athletwyr”

“Roedd dilyn Cymru i Ffrainc ar gyfer Ewro 2016 yn brofiad arbennig a fydd yn aros gyda mi am byth,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Rydw i eisiau i ni allu cynnal digwyddiadau rhyngwladol tebyg yma gartref fel y gall Cymru hefyd ddod yn llwyfan ar gyfer cystadlaethau chwaraeon byd-enwog.

“Dyna pam y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cynnig i Gymru gynnal Gemau’r Gymanwlad naill ai yn 2030 neu 2034, gan roi hwb i’n proffil byd-eang a dod ag ystod o fuddion economaidd.

“Roedd profiad Glasgow o gynnal Gemau’r Gymanwlad yn 2014 yn hynod gadarnhaol a gallai Cymru ddysgu ohono wrth baratoi ein cais.

“Mae amcangyfrif bod 690,000 o bobl wedi ymweld â dinas Glasgow a gwario £280m tra roeddent yno.

“Byddai cynnal y Gemau yn gofyn am fuddsoddi mewn lleoliadau chwaraeon a seilwaith trafnidiaeth, gan greu cyfleoedd cyflogaeth a gadael etifeddiaeth o gyfleusterau o safon fyd-eang i gymunedau Cymru eu defnyddio a’u mwynhau am nifer o flynyddoedd i ddod.

“Gobeithio y byddai cynnal y Gemau yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o athletwyr o Gymru i ddilyn y rhai sydd eisoes yn gwneud ein cenedl yn falch ar lwyfan chwaraeon y byd.”

“Anhygoel”

Mae gwibiwr o Gaerdydd a fu yn cystadlu dros Gymru yn y ras gyfnewid 4×100m yng Ngemau’r Gymanwlad 2014 yn Glasgow, yn cefnogi’r alwad gan Rhun ap Iorwerth.

“Fel athletwr balch o Gymru mae hyn yn newyddion anhygoel i mi fod Plaid Cymru yn addo datblygu cais i gynnal Gemau’r Gymanwlad yng Nghymru,” meddai Mica Moore.

“Fe wnes i gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yng Nglasgow 2014, a dyna oedd fy mhrofiad o gêm gartref.

“Roedd y standiau’n llawn dop, y torfeydd mor uchel, roedd pawb yn teimlo eu bod nhw’n bloeddio amdanon ni ac roedd yn dangos yn ein perfformiad oherwydd bod gennym ni record genedlaethol sy’n dal i sefyll heddiw.

“Byddai cael y cyfle i gystadlu dros Gymru o flaen torf gartref yn rhywbeth y byddwn wrth fy modd â fe ar ran athletwyr newydd yng Nghymru pe baen nhw’n cael ei brofi, a hyd yn oed os nad ydw i’n cystadlu bryd hynny, bydda i’n sefyll ym mlaen yr eisteddle yn bloeddio dros weddill Cymru.”