Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi dweud bod yn rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru flaenoriaethu dileu’r diciâu.

Cafodd yr angen i ddelio ar frys â’r diciâu ei drafod gan bwyllgor iechyd a lles anifeiliaid Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) mewn cyfarfod rhithwir cyn etholiad Senedd Cymru ym mis Mai.

Wrth siarad yn y cyfarfod, dywedodd Ian Lloyd, cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Lles Anifeiliaid Undeb Amaethwyr Cymru ei bod yn “adlewyrchiad trist o’r problemau parhaus a achosir gan TB bod y clefyd yn dal i haeddu trafodaethau mor fanwl”.

“Er bod gwelliannau wedi’u gwneud ers 2009 mewn perthynas â’r nifer o fuchesi ag achosion newydd o TB, mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 9,762 o anifeiliaid wedi’u lladd yn y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2020 yng Nghymru,” meddai.

Er bod hynny 20% yn is na’r ffigwr uchaf erioed o 12,256 o anifeiliaid a laddwyd yn 2019, mae’r data diweddaraf yn dangos cyfraddau ar oddeutu 30% o achosion caeedig o’r diciâu yn codi eto o fewn y  ddwy flynedd ddilynol, gan ddangos nad yw’r clefyd yn cael ei reoli’n effeithiol o dan y mesurau cyfredol.

“Er ein bod yn cefnogi mesurau fel profion TB blynyddol a chyd-symud yn gyffredinol, mae cryn bryder yn bodoli ynghylch cymesuredd rhai mesurau a’r cyfyngiadau economaidd difrifol y maent yn eu gosod ar ffermydd,” meddai Ian Lloyd.

“Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn parhau i gefnogi dull cyfannol o reoli TB yng Nghymru sy’n cael ei arwain gan wyddoniaeth yn hytrach na gwleidyddiaeth.

“Mae gwledydd fel Ffrainc a’r Almaen yn gallu cynnal lefelau achosion TB yn agos at sero ac mae Gweriniaeth Iwerddon wedi gallu haneru achosion TB trwy ddifa moch daear yn rhagweithiol.

“Rhaid iddyn nhw (Llywodraeth Cymru) hefyd barhau i gefnogi treialon a chyflwyno brechiadau gwartheg wrth gydnabod mai dim ond rhan o’r ateb tuag at ddileu TB yng Nghymru ydyw.”