Mae YesCymru wedi atal aelodaeth aelod o’r Pwyllgor Canolog wrth i’r mudiad annibyniaeth gynnal ymchwiliad.

Mae golwg360 wedi gweld e-bost sy’n dweud bod y mudiad “wedi derbyn sawl cwyn ynglŷn â sylwadau a wnaed gan aelod o’r Pwyllgor Canolog ar y cyfryngau cymdeithasol”.

Daw’r penderfyniad yn dilyn cyfarfod o’r Pwyllgor Canolog i drafod y sefyllfa.

Mae’r e-bost yn dweud bod y mudiad “yn credu mewn dinasyddiaeth gynhwysol, sy’n croesawu’r ffaith bod pob un sy’n dewis Cymru fel eu cartref – waeth beth yw eu hoedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol – yn ddinasyddion llawn o’r Gymru newydd”.

“Mae hyn yn ganolog i’r Cyfansoddiad a fabwysiadwyd gan aelodau yn ein Cyfarfod Cyffredinol diwethaf. Rydyn ni’n cymryd unrhyw gyhuddiad o wahaniaethu o ddifrif,” meddai wedyn.

Maen nhw’n pwysleisio nad yw’r penderfyniad i atal aelodaeth “yn gam disgyblu”, ac y byddan nhw’n cynghori â’u Swyddog Amrywiaeth a Chynwysoldeb.

Mae disgwyl penderfyniad o fewn 14 diwrnod ar ôl cynnal yr ymchwiliad.

Mae YesCymru wedi cyhoeddi’r neges ganlynol fore heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 24):