Wrth i’r Blaid Lafur geisio aros mewn grym yn y Senedd ar ôl Mai 6, maen nhw’n dweud mai “dim ond pleidlais dros Lafur fydd yn cadw’r Torïaid allan”.
Gyda llai na phythefnos tan yr etholiad, mae’r blaid allan yn ymgyrchu ledled y wlad ac yn rhoi gwybod i bleidleiswyr am yr hyn maen nhw’n ei alw’n “gynllun uchelgeisiol i symud Cymru yn ei blaen”.
Yn ôl y blaid, maen nhw wedi cael ymateb cadarnhaol ar stepen y drws hyd yn hyn, a hyny o ganlyniad i addewid “i gyflwyno’r swyddi mae eu hangen ar Gymru” a “chefnogaeth eang i ddull gofalus di-flewyn-ar-dafod Mark Drakeford er mwyn symud heibio’r pandemig”.
Ymhlith y rhai sydd allan yn ymgyrchu mae Carolyn Harris, dirprwy arweinydd Llafur Cymru ac Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe yn San Steffan.
“Siarad â phobol yw’r rhan orau o unrhyw ymgyrch, ac fe fu braidd yn rhyfedd o beidio â bod allan ar stepen y drws tan yn ddiweddar,” meddai.
“Y penwythnos hwn, bydda i’n ymuno â miloedd o ymgyrchwyr ledled Cymru, ac yn bwrw iddi gyda phenwythnos o ymgyrchu ar stepen y drws.
“Byddwn ni’n siarad am gynllun Llafur Cymru am filoedd o swyddi newydd ledled Cymru.
“Gyda phob pôl yn dangos y perygl mae’r Torïaid yn ei beri yn yr etholiad hwn, bydd ein neges yn un gwbl glir.
“Dim ond pleidlais dros Lafur Cymru fydd yn gwarchod swyddi ac yn cadw’r Torïaid allan – tra bydd pleidlais dros y Blaid yn achosi perygl o adael y Torïaid i mewn trwy’r drws cefn.”