Mae disgwyl i Derek Chauvin, y cyn-blismon a gafwyd yn euog ddydd Mawrth (Ebrill 20) o lofruddio ac o ddynladdiad George Floyd ym Minneapolis, gael ei ddedfrydu ar Fehefin 16.

Clywodd y llys iddo wasgu ar wddf y dyn croenddu â’i benglin.

Bydd e’n cael ei ddedfrydu gan y barnwr Peter Cahill, y barnwr yn yr achos llys oedd wedi para air wythnos ac a glywodd gan arbenigwyr meddygol, pobol oedd yno ar y pryd a hyfforddwyr yr heddlu.

Cafwyd Chauvin, 45, yn euog o lofruddiaeth anfwriadol ail radd, llofruddiaeth trydydd gradd a dynladdiad ail radd.

Bydd e’n cael ei ddedfrydu am y drosedd fwyaf difrifol yn unig, ac fe allai gael hyd at 40 mlynedd o garchar.

Ond y disgwyl yw y bydd y ddedfryd yn llai na 30 mlynedd ac o bosib yn nes at 12 mlynedd a hanner gan nad yw e wedi’i gael yn euog o unrhyw drosedd arall yn y gorffennol.

Yn ôl y gyfraith, gall rhywun sydd wedi’i gael yn euog o’r troseddau mae Chauvin wedi’i gael yn euog ohonyn nhw wynebu rhwng 10 a 15 mlynedd o garchar.

Dadleuon erlynwyr

Y disgwyl yw y bydd yr erlynwyr yn ceisio’r ddedfryd fwyaf llym am sawl rheswm.

Byddan nhw’n dadlau bod Derek Chauvin wedi camddefnyddio’i awdurdod fel plismon, a bod nifer o blant yn dystion i’w drosedd.

Yn eu plith roedd merch naw oed a ddywedodd fod gwylio George Floyd ar lawr wedi ei gwneud hi’n “drist ac yn eithaf blin”.

Y gred yw na fydd y barnwr yn rhoi dedfryd o fwy na 30 mlynedd rhag ofn y gallai gael ei gwyrdroi mewn gwrandawiad apêl.

Ym Minnesota, yr arfer yw fod carcharor yn treulio dau draean o’r ddedfryd dan glo a’r gweddill yn y gymuned ar sail ymddygiad da.

Gallai Chauvin, felly, dreulio 20 mlynedd dan glo pe bai’n cael dedfryd o 30 mlynedd ond fe fyddai’n wynebu dychwelyd i’r carchar pe bai’n torri amodau parôl.

Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa ar ei ben ei hun er mwyn ei warchod ar hyn o bryd.

Dydy hi ddim yn glir eto a fydd Chauvin yn siarad yn ystod y gwrandawiad i’w ddedfrydu.