Mae Dominic Grieve, cyn-Dwrnai Cyffredinol Llywodraeth San Steffan, yn galw ar y prif weinidog Boris Johnson i egluro sut y gwnaeth e dalu i adnewyddu ei fflat yn Downing Street.
Daw hyn ar ôl i Dominic Cummings, cyn-brif ymgynghorydd y prif weinidog, gyhuddo’i gyn-fos o gynllwyn i sicrhau mai noddwyr Ceidwadol fyddai’n talu am y gwaith.
Daw hyn yn dilyn adroddiadau iddo dderbyn rhodd o £58,000.
“Dydy e ddim wedi dweud pryd y gwnaeth e benderfynu ei ad-dalu na chwaith a yw e bellach wedi ei ad-dalu,” meddai wrth raglen Today ar Radio 4.
“Y gwir yw ei fod e wedi ei dderbyn, dw i’n credu bod hynny wedi dod yn eithaf amlwg, yn rhodd sylweddol tuag at adnewyddu’r fflat.
“Os yw gweinidog yn mynd dramor ac yn derbyn oriawr aur gan rywun o dramor, mae’n rhaid iddo ei dychwelyd i’r Llywodraeth neu mae’n rhaid iddo ei phrynu’n ôl.
“Dydy e ddim yn dod i ffwrdd â £58,000 – os mai dyna’r ffigwr – am adnewyddu eich fflat bersonol yn Downing Street.
“Fy argraff i yw fod yna wingo parhaus am ffynhonnell yr arian ar gyfer yr adnewyddu yma.”
Llafur yn galw am atebion
Mae’r Blaid Lafur hefyd yn galw am atebion ynghylch y sefyllfa.
Yn ôl Llywodraeth Prydain, talodd Boris Johnson am y gwaith adnewyddu drosto fe ei hun.
Ond mae Dominic Cummings yn dweud bod Boris Johnson eisiau i roddwyr dalu am y gwaith yn dawel fach.
Yn ôl Steve Reed, llefarydd cymunedau Llafur, dylai Llywodraeth Prydain gyhoeddi unrhyw ohebiaeth neu ddogfennau sy’n berthnasol i roddion yn ymwneud â’r gwaith.
“Mae angen i ni wybod y swm cyfan a gafodd ei dalu ac mae angen i ni wybod pwy dalodd am y gwaith yn y lle cyntaf, a phwy mae’r prif weinidog bellach yn cynnig eu had-dalu,” meddai.
Mae’n dweud bod rhaid sicrhau nad yw’r Llywodraeth yn “gwneud ffafrau” yn gyfnewid am arian, a bod “Prydain yn haeddu gwell”.
Dominic Cummings yn gwadu honiadau
Wrth gyhoeddi ei ddarn blog cyntaf ers gadael ei swydd gyda Boris Johnson, dywedodd Dominic Cummings:
- nad oedd e wedi cyhoeddi negeseuon testun rhwng Boris Johnson a Syr James Dyson yn ddienw
- nad oedd e wedi cyhoeddi manylion am yr ail gyfnod clo Covid-19 ym mis Tachwedd yn ddienw
- fod Boris Johnson wedi ystyried ceisio atal ymchwiliad i’r achos o gyhoeddi gwybodaeth yn gyfrinachol rhag ofn fod ffrind ei ddyweddi Carrie Symonds yn cael ei chlymu yn yr achos – ond mae Downing Street yn gwadu hynny
- fod Boris Johnson wedi creu cynllwyn rywdro a allai fod yn anghyfreithlon er mwyn sicrhau bod rhoddwyr yn talu i adnewyddu ei fflat yn Downing Street