Mae dyn 66 oed wedi cael ei gyhuddo o sarhau ymgeisydd yr SNP yn eiriol ar stepen y drws yn Sir Aberdeen.

Mae’r dyn wedi’i gyhuddo o sarhau Fergus Mutch, sy’n sefyll yng Ngorllewin Sir Aberdeen, wrth iddo ymgyrchu ger eiddo yn Aboyne ar Ebrill 2.

Mae’r achos wedi’i drosglwyddo i’r erlynydd.

Y Ceidwadwyr enillodd yr etholiad diwethaf yno, ac fe fydd Alexander Burnett yn ceisio cael ei ailethol fis nesaf.