Mae’r heddlu ar eu gwyliadwraeth heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 24) wrth i gyfyngiadau Covid-19 Llywodraeth Cymru gael eu llacio fel bod modd i bobol o fwy o aelwydydd ddod ynghyd.

Maen nhw’n dweud y byddan nhw’n ymateb i achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn llefydd lle gallai torfeydd ymgynnull.

Daw hyn wrth i’r Swyddfa Dywydd ddweud bod Caernarfon a’r cyffiniau ymhlith y llefydd poethaf dros y penwythnos, ac mae mwy o blismyn ar batrôl yn y gogledd.

Fodd bynnag, yn y de mae’r gorchmynion yn eu lle – ym Mae Caerdydd lle bu problemau mawr eisoes, yn Abertawe, Aberogwr a’r Barri – ac mae gan yr heddlu yr hawl i symud pobol o’r ardaloedd hyn.

Mae gorchymyn hefyd yn ei le yn Aberaeron, gyda rhybudd i bobol “fod yn synhwyrol”.

Mae’r heddlu hefyd ar eu gwyliadwraeth yn Ninbych-y-Pysgod yn sgil pryderon y gallai sefyllfa debyg godi yno.